Skip to main content

X DRYSOIRIFA. $'■ -«:. 1 Rhip. 611.] MEDI, 1881. [Llyfb LI. TAD A GWAREDYDD YR EGLWYS. BgAIAH liüi. 16: " Cauiys ti yw ein Tad ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na'n cyd- nebydd Israel; ti, Arglwydd, yw ein Tad ni, ein Gwaredydd, dy enw sydd erioed." Dadlbuon cryfion mewn gweddi ddy- fal yw y .testun hwn: pobl yr Arglwydd yn eu hadfyd, pryd yr oedd drysau pawb daearol yn gauedig rhagddynt, yn curo wrth ddrws y nefoedd, ae yn dad- leu perthynas Arglwydd y lluoedd â hwynt fel eu Tad, a gogoniant ei enw fel eu Gwaredydd. Mae yn ymddangos fod Esaiah yma, yn y rhan ddiweddaf o'r bennod hon, ac yn yr holl bennod ganlynol, yn dar- lunio, trwy ysbryd prophwydoliaeth, deimladau yr Hebreaid duwiol yn nghaethiwea Babilon, yn wyneb y dinystr a ddygid ar eu sefydliadau gwladol ac eglwysig. Wele hwynt, gan ^yfaddef eu hanwireddau, yn ymdrech â'u Duw mewn gweddi am iddo droi ei ddig oddiwrthynt, a dychwel atynt mewn ffafr a chymhorth. Ac yn hyny, dyma hwy yn dadleu o flaen ei orsedd- fainc, "Canys ti yw ein Tad ni;" ein Tad mewn ystyr uwch, agosach, a mwy effeithiol, nag y mae Abraham ac Israel yn dadau i ni. Nid oes le i ni obeithio yn eu henwau hwy, ond y mae genym obaith cidarn yn dy enw di. " Er nad edwyn Abraham ni, ac na'n cydnebydd Israei, ti, Arglwydd," ti, Jehofah, "yw ein Tal ni;" ac y mae genym ì'w chwane^u yn beraidd am danat, " Ein Gwaredydd, dy enw sydd erioed." Yr ydym yn y testnn yn cael yr Israeliaid meddylgar yn edrych yn ol at eu hynafiaid enwog, ac yn gweled nad oedd wiw iddynt ddysgwyl help oddiwrthynt hwy, ac yna yn edrych i fyny at eu Duw, ac yn canfod pob calondiU ì ddysgwyi nawdd ac yinwar- ed. Cawn felly edrych yn gyntaf ar yr olwg ddigalon, ac yna ar yr olwg gysur- ol, y naill a'r llall, a ddangosir yma, gan gyrchu at ein hadiysg a'n hadeil- adaeth ni yn ein cysylltiad âg eglwys Dduw yn y dyddiau hyn. Dyma. y bobl dbtjain dlodion yma. yn tboi yn ol at dadau neillduol y genedl, ac yn cael mai opeb dy8öwyl wbthynt hwy am nodded yn eu blin- fsd : "Nid edwyn Abraham ni, ac ni'n cydnebydd IsraeL" Esbonir y geiriau hyn gan rai fel mynegiad pruddaidd, a chan eraill fel addefiad edifeiriol; ac ni bydd yn an- mhriodol i ni gymeryd y ddau olygiad. Geilir edrych ar hynyma a ddywedir, " Nid edwyn Abraham ni, ac ni'n cyd- nebydd Israel," fel mynegiadpruddaidd: plant y gaethglud, ar ol sefydlu eu sylw ar yr hen batriarchiaid urddasol oedd yn wreiddjau iddynt fel cenedl, yn forfod ymsynio nad oedd ganddynt wy adnabyddiaeth o honynt, ac nas gallent ddangos caredigrwydd iddynt. Yr oedd yr Iuddewon, fel y mae yn hysbys, yn had naturiol Abraham, ac, yn gyffredin, yn meddwl llawer o hon- ynt eu hunain o'r herwydd. "Y mae genym ni Abraham yn dad i ni," medd- ynt. Ac yr oedd Israel, neu Jacob, yn wreiddyn iddynt mewn modd mwy neillduol fyth. Tra yr oedd Ismael, tad yr Ismaeliaid, yn gystal âg Isaac, tad ísrael, wedi dyfod o Abraham, ac Esau, tad yr Edomiaid, yn gystal â Jacob, tad yr Israeliaid, wedi dyfod o Isaac, yr oedd holl feibion uniongyrehol Jacob yn dadau llẁy tháu yr Arglwydd; 2 B