Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEFÀ. Rhif. 609.] GORPHENAF, 1881. [Llyfr LI. Y GWAITH DA. GAN Y PARCH. D. JONËS, M.A., BLAENAYON, SIR FYNWY. Philippiaid i. 6 : " Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orphen hyd ddydd Iesu Grist." Nid pob gwaith a ddechreair a orphen- ir. Y mae sylw a phrofiad wedi dysgu y wers yna yn dda i'r rhan amlaf o honom. A gwerthfawr a hyfryd iawn mewn byd fel hwn, lle y mae cynifer o bethau mor ansefydlog ac ansicr, yw cael gwybod am beth y gellir teimlo yn hyderus o berthynas iddo, heb gymaint a chysgod o berygl na phosiblrwydd i'n hyder ddiweddu mewn siomiant. Y mae'r gwaith y sonia'r testun am dano yn waith o'r fath—yn un y gellir bod yn gwbl hyderus y gwelir ef wedi ei orphen mewn perffeithrwydd a gogon- iant yn mhawb y dechreuir ef. Y mae y desgrifiad a rydd yr apostol yn nechre yr epistol o'r sawl y gwnaed y gwaith ynddynt yn ddigon i ni ddeall yn sicr at ba waith y cyfeiriai. Nid oedd yn dyweyd hyn am bawb ag oeddent yn byw yn Philippi, eithr am "yr holl saint yn Nghrist Iesu, gyda'r esgobion a'r diaconiaid." Gan hyny amlwg yw mai y gwaith da o adnewyddiad a sanct- eiddiad a wna Duw trwy ei air a'i Ys- bryd yn nghalon dyn er ei iachawdwr- iaeth dragywyddol yw y gwaith hwn. Felly y mae'r hyn sydd bwysicaf oll i ddyn yn beth y gellir bod yn hyderus gyda golwg arno. Dim ond pethau ydynt yn gymharol fychain a dibwys sydd yn ansicr. Y mae y gwaith sydd o bwys mawr, parhâus, a thragywyddol i ddyn, yn un y mae genym seiliau cedyrn i deimlo yn hyderus y gor- phenir ef yn mhawb ei dechreuir. Y mae seiliau yr hyder hwn i'w cael yn y Gweithiwr a natur ygwaith, ac nid yn y gwrthddrychau y mae i'w wneyd ynddynt Seiliau ein hyder am orpheniad y gwaith da ydyw, fod yr holl wrthwynebiadau a'r rhwystrau a allant gyfodi yn erbyn y gwaith yn hollol adnabyddus i'r Gweithiwr pan yn ei gynllunio a darparu ar ei gyfer, a bod y darpariaethau a wnaeth tuag ato yn ddigon helaeth a chymhwys i orch- lygm pob gwrthwynebwr a symud pob rhwystr. Diffyg o hyn yw un o brif achosion y lliaws o fethiantau y ceir hanes am danynt yn ngweithredoedd plant dyn- ion. Ni ddeallodd y gweithiwr cyn cychwyn y gwaith nifer na maint yr anhawsderau a gyfodent iddo. Fel yr elai ymlaen gyda'r gorchwyl, deuai i ymdeimlo â nerth yr anhawsderau a'i wendid ei hun, ac âg annigonolrwydd ei ddarpariaethau i'w cyfarfod, nes bu raid iddo, gan pa mor groes i'w deimlad a'i ddymuniad oedd hyny, roddi i fyny cyn gorphen yr hyn a ddechreuodd. Y mae'r gwaith da y cyfeirir ato yma yn waith ag y mae iddo anhawsderau a rhwystrau lawer. Y mae iddo anhaws- derau a gyfodant oddiwrth waelder a llygredigaeth calon dyn, ar ac yn yr hon y mae'r gwaith i'w wneyd. Y mae llawer i law fedrus yn methu dangos ei medr o herwydd anghymhwysder yn y defnydd y gweithia arno. Y mae am- bell un wedi cyrhaedd medruswydd i ysgrifenu llawysgrif dda—medr i wneyd y llythyrenau yn lluniaidd eu ffurf a chyson eu maintioli, fel y mae yr ys- grífen yn hawdd ei darllen ac hefyd yn