Skip to main content

Y. DEYSOEFÁ. Rhif. 606.] EBRILL, 1881. [Llypr LI. IOAN Y DYSGYBL ANWYL. GAN Y PARCH. JOHN OGWEN JONES, B.A., RHYL. Y mae y mater hwn yn un dyddorol, ac, yn un o'i agweddau, yn dra phwysig. Y mae ei eangder yn gyfryw fel nas gellir o fewn cylch yr ysgiif hon ond prin cyffwrdd â'i ymyl- on. 0 ran dyddordeb, dichon nad oes yr un cymei iad Lanesyddol yn rhagori arno, oddigerth, fe allai, yr apostol Paul. Hòna Farrar mai Paul ydyw y cyraer- iad hanesyddol mwyaf dyddorol mewn bod. 0 herwydd mwy nag un rheswm, gellir dodi yr apostol ìoan with ei ochr yn hyn, neu o leiaf, yn &il iddo. Y mae cymeriad yr Athraw mawr ei hun, wrth rtswm, allan o gylch, ac yn an- nhraethol uwchlaw bod yn ddyddorol, am ei fod yn Berson Dwyfol; ond pan ystyriom y fath agosrwydd a thebygol- rwydd sydd rhwng y dysgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu â'r Ieau ei hun, ac eto, yn yr holl debygolrwydd ac agos- rwydd, fod pelhler aufesurol rhyng- ddynt a'u gilydd o ran eu pers.mau, nis gallwn lai na chyfnf Ioan fel un o'r cymeriadau hanesyddol hyuotaf a mwyaf dyddorol yn holl hanes y byd. Drachefn, y mae y 11 e a'r gwaith pwysig a gyflawnwyd gan Ioan yn ei berthynas á'r Eglwys Gristionogol yn taenu àros ei fywyd ddysgleirdeb a dyddordeb o'r gradd uchaf. Am bwys- igrwydd y testun, nid oes dim am- mheuaeth i fod yn meddwl neb cyfar- wydd i fesur cymedrol â sefyllfa yr ymdrech sydd yn cymeryd lle y blyn- yddoedd hyn rhwng amddiffynwyr Cristionogaeth a phleidwyr Anffydd- iaeth. Dywed Liddon yu ei Bampton Lecture mai Efengyl Ioan ydyw maes ymladdía Cristionogaeth yn eiu dydd- iau ni. 0 leiaf, gellir dywedyd mai hi ydyw yr amddiffynfa ar faes y frwydr o amgylch yr hon y mae holl allu y ddwy ochr yn ymgrynhoi yn y blynyddoedd hyn. Dyma'r canolbwynt, fel Houge- mont ar faes Waterloo, y ceisir ei gadw gan y naill a'i gymeryd gan y llall, ac ar yr hwn y teimlir fod y fuddugoliaeth nesaf, os nad yr un derfynol, yn troi ac yn dibynu. Pe gallai y gelyn lwyddo i ddadyinchwelyd y Bedwaredd Efeugyl, ystyriai ei fod wedi myned i mewn i'r castell. I gyrhaedd y nôd hwn, rhydd Anífyddiaeth ei holl yni a'i hymadferth ar waith. Teimla y blaid grediniol hyder, pa fodd bynag, nid yn unig y bydd i "gadarn sail Duw" yn yr Ëfengyl hon sefyll, ond y dengys ei chyfaddasrwydd i'r ymosodiad hefyd. Cawn fath o ragdeimlad o hyn yn nad- «auiad yr Ymherawdwr gwrthgiliedig Julian, pan ddywododd, uYr Apoptol Ioan hwnw sydd wedi dyfetha y cwbl, trwy ddywedyd lod y Gair wedi ei wneuthur y n gnawd." Byddai yn dda genym allu rhoddi rhyw olwg gryno ar y sefyllfa ; ond er mwyn mantais i hyny, ceisiwn edrych ar y testun i ddechre yn ei wedd gyffredinol. Cymerwn yn gyntaf ei hanes ; yn ail, ei gymeriad ; ac yn olaf, ei waith. I. Ei Hanes. Y mae defhyddiau hanes yr Apostol Ioan i'w cael gan mwyaf yn y Testa- ment Newydd, ac yn benaf yn yr Efengylau; ond y mae genym hefyd dystiolaethau traddodiadol líiosog am dano, a'r rhai hyny, neu o leiaf un dos- barth o honynt, â mwy o sáil ac awüur-