Skip to main content

Y DEYSOEFA. Ehif 758.] EHAGFYE, 1893. [Llyfr LXIII. Y DIWEDDAE BAECH. DE. HUGHES, CAEENAEFON. GAN Y PARCH. G. PARRY, D.D. "Wrth ddechreu ysgrifenu ychydig linellau ar Dr. Hughes, terntir íi i gymhwyso ato eiriau a ddywedir gan Carlyle yn niwedd ei erthygl ar Jean Paul Eichter—fod y " Drychfeddwl dwyfol o'r Byd" yn sefyll mewn goleuni clir, pur, o flaen ei feddwl; ei fod yn adwaen yr Anweledig; a'i fod gyda chalon uchel, gref, ac nid anys- brydoledig, wedi ymdrechu ei ddangos yn y gweledig, a chyhoeddi newydd- ion am dano i'w gyd-ddynion. Gallwn yn hawdd gyfieithu yr ymadroddion hyn i ystyr efengylaidd. Oedd, yr oedd ein hanwyl frawd, yr hwn y mae Cymru yn awr yn galaru ar ei ol, yn weledydd, yn un o wir brophwydi Israel Duw. Meddai gryn fesur o fewn-welediad a rhag-welediad, y rhai ydynt bob amser gyda'u gilydd. Gwelodd lawer golygfa yn yr Anwel- edig. Anturiai weithiau yn lled bell, er nad oedd yn hynod am ysbryd anturiaethus. Hwyliai ei long yn ofalus yn ol y siart a'r cwmpawd, gan ymgadw yn bell oddiwrth y creigiau a'r traethau, ac heb esgeuluso cymeryd " sylwadau ar y cyrff nefol." Gwnaeth lawer o wibdeithiau cysegredig i ran- diroedd yr Anweledig. A llawer gwaith y bu calonau cynnulleidfaoedd Cymru yn llosgi ynddynt wrth ei wrando yn adrodd hanes ei deithiau, ac yn darlunio y rhyfeddodau a welodd. Ehaid i mi gael crybwyll yn y fan yma mai yn anewyllysgar y cyd- syniais â chais y Golygydd i ysgrifenu ychydig ar y mater hwn. Buasai yn well genyf beidio. Nid wyf yn sicr y gallwn ddyweyd yn fanwl paham y teimlwn felly. Ond yr wyf yn sicr nad oes dim anghen am hyny, pe gallaswn. Gallaf ddyweyd, pa fodd bynag, beth oedd un elfen yn y teimlad. Yr hen gyfeillgarwch agos a fu rhyngom er ys mwy na deugain mlynedd yn ol a barai y fath deimlad o cbwithdod hiraethlawn fel nad oedd genyf fawr o flas i geisio gwneyd rhyw elfeniad oer ar ei ragoriaethau. Bron nad ymddangosai fel un yn cymeryd y gyllell yn ei law i ddifynu corfî perthynas anwyl neu gyfaill hoff. Ehoddaf ychydig o adgofion, a theyrn- ged gywir o edmygedd i'w alluoedd a'i ddoniau nodedig. Cofus iawn genyf y tro cyntaf erioed i mi ei weled a'i glywed. Yr oedd y ddau yn dygwydd bod ar unwaith. Yn y flwyddyn 1848 y bu hyny. Yr oeddwn I yn yr Athrofa er dechreu y tymmor olaf o 1847, ac heb ddechreu pregethu eto. Tybiaf mai Sabboth gwag oedd hwnw yn y Bala. Ond yr oedd y bachgen ieuanc o Lanercby- medd wedi dyfod i'r dref ddiwrnod neu ddau cyn y Sabboth, a sicrhaodd y blaenoriaid ei wasanaeth. Yr oedd- wn yn fy eisteddle arferol yn gallery 2 L