Skip to main content

X DETSOEFA. Ehif 757.] TACHWEDD, 1893. [Llyfe LXIII. MYFIAETH. GAN Y PAECH. J. J. EOBEETS, POETHMADOG. YSGRIF II. III. BALCHDER. Ymdrechais ddangos fod yn perthyn i uchelgais ac i awydd am glod, er mor agored ydynt i ymddirywio ac ym- lygru, rai nodweddion canmoladwy. Prin y mae profi hyny gyda golwg ar falchder, yn ei ystyr fwyaf han- fodol a chywir, yn ddichonadwy. Ymddengys, bron ymhob gradd o hono ac ymhob ffurf arno, i feddyl- iau grasol, yn ddrygionus a thram- gwyddus. Y mae yn ei ymddangos- iadau cyhoeddus mor ffrom a sarug, fel y mae yn parlysu amynedd ac yn cyffroi gwrthwynebiad cyffredinol. Y mae drwy ei drahausder deifiol yn lluddias cariad i fwrw ei gwrlid o esgus- odion drosto. A diau ei fod yn ei natur fewnol yn waeth nag ydyw yn ei weithrediadau allanol. Os felly, os ydyw gwên a gẁg cymdeithas, fel y mae yn naturiol credu eu bod, yn cymedroli llawer ar ei ysgogiadau gweledig, rhaid ei fod yn nyfnderoedd tywyll yr enaid yn ysbrydiaeth ar- swydus. Felly y gosodir ef allan yn y Bibl— fel pechod rhyfygus. Defnyddir y gair droion yn yr Hen Destament; a gol- yga ynddo—bod yn fawr, ymchwyddo, berwi drosodd fel dwfr, &c. Ym- ddengys yr un meddylddrych drwy lîaws o ymadroddion eraill ynddo; a gellir ei drosglwyddo drwy y fath eiriau ag uchelfrydedd, haerllugrwydd, beiddgarwch drygionus, dirmyg at ddyn, a gwrhydri yn erbyn Duw. Fe, allai yr haera rhywrai, fod balchder yn tueddu pobl i yìngadw oddiwrth rai pechodau. Gall hyny fod ; ond y mae ar yr un pryd yn eu gyru ymhellach o dan arglwyddiaeth rhai eraill. Dysg liaws i ymlanhau ac ymwisgo yn drefn- us; par iddynt ar unwaith fyw uwch- law eu hamgylchiadau; ac y mae drwy hyny yn eu darostwng i ddyled a chaethiwed. Cymer yn y blynydd- oedd hyn feddiant o lawer o weithwyr ein gwlad ; a gwelir ef yn eu cymhell i geisio dynwared ei phendefigion, yr hyn sydd yn gymaint o ffolineb a phed ymdrechai ychain weryru a charlamu fel meirch. Os ydyw yn attal rhai ymddwyn yn fawaidd, neu yn ddiradd iol, y mae hefyd yn eu llanw â syn iadau uwch am danỳnt eu hunain, ac â dirmyg dyfnach tuag at eraill Ehwystra lawer i gloddio a chardota; ond nis gall luddias neb i newynu neu wenwyno ei hun. Un waith (ac eithrio yr ymadrodd " balchder y bywyd " yn 1 Ioan ii. 16, lle yr ymlithrodd y gair drwy gamgyf- ieithiad i mewn yn Ue ymffrost neu wag-ogoniant), y defnyddir balchder yn y Testament Newydd; a chyr- haeddwn syniad am ei ysgelerder wrth ystyried ei gymdeithion: Marc vii. 20—23. Cyfarfyddẃn â beilchion ynddo dair neu bedair o weithiau; ac y mae ymhob cysylltiad yn golygu annuwiolion. Byddai yn eithaf natur- a u