Skip to main content

X DEYSOEPA. Ehif 753.] GOEPHENAF, 1893. [Llyfr LXIII. TEYDEDD JIWBILI Y CYFUNDEB.—HANES EIN DECHEEUAD. GAN Y PAECH. JOHN DAYIES, PANDY. YSGRIF II.* Dywed y Parch. John Hughes, yn Methodistiaeth Cymru, mai yn Ion- awr, 1742, y oynnaliwyd y Gymdeith- asfa gyntaf yn Watford, ac y mae llu mawr o ysgrifenwyr wedi dywedyd yr un peth ar ei ol; ond mae hyn yn sicr o fod yn gamgymeriad. Mae genym sicrwydd mai yn Ebrill, 1743, y cyn- naliwyd yr ail Gymdeithasfa. Ceir mai un o benderfyniadau y Gymdeith- asfa gyntaf yn Watford oedd hwn :— " Fod i bob cynghorwr ddwyn hanes ei gymdeithasau priodol ac o'r rhai a dderbynir iddynt, i'r Gymdeithasfa nesaf, yr hon a gynnelir y Mercher cyntaf ar ol y 25ain o Fawrth, 1743." Os mai yn Ionawr, 1742, y cynnaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf, yr oedd pym* theng mis rhwng y gyntaf a'r ail, yr hyn sydd yn dra annhebyg. Oddi- wrth ohebiaeth a gymerodd le rhwng Howell Harries a'r Parch. John Oulton, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Leominster, yn mis Mawrth, 1742, ymddengys nad oedd y Gymdeithasfa wedi ei chychwyn y pryd hwnw. Eglurodd Harries i Mr. Oulton gyn- llun y tadau i uno y cymdeithasau mewn un sefydliad yn meddu ar * Mae yn ddrwg genym ddarfod i ni gael Bin siomi, ar yr awr olaf, am y darluniau a fwriedid i ganlyn yr ysgrif non.—Gol. awdurdod i ddeddfu; a chymerad- wyai Mr. Oulton y drychfeddwl yn fawr, ac edrychai arno fel peth o Dduw. Yn y Gymdeithasfa gyntaf penderfynwyd fod Howell Harries i fod yn Arolygwr cyffredinol dros yr holl gymdeithasau, ac i arolygu yr arolygwyr a'r cynghorwyr anghyhoedd. Ar y 25ain o Ionawr, 1743, dywed Harries mewn llythyr at Whitfield:— "Yr wyf wedi gweled a threfnu y nifer fwyaf o'r cymdeithasau yn Sir Frycheiniog, Sir Fynwy, a Sir For- ganwg; ac ymhob man mae yr Ar- glwydd wedi bod gyda ni mewn modd neillduol yn ein dysgu a'n porthi ymhob cjTndeithas. Yr ydym wedi gosod Arolygwyr drostynt, ac Ymwel- wyr, a rhai i'w maethu â didwyll laeth y Gair, a dwyn i ni eu hanes. Yr wyf yn hyderu, erbyn y Gymdeithasfa nesaf, y byddaf wedi gweled a threfnu y nifer fwyaf o'r cymdeithasau, os nad yr oll, ynihob man." Os mai yn Ionawr, 1742, y penodwyd Harries yn Arolygwr, nid yw yn debyg y buasai gŵr, oedd mor Uawn o waith, dros flwyddýn o amser cyn gwneyd ond llai na hanner y gorchwyl a ymddir- iedwyd iddo. Ysgrifena eto at Whit- fìeld ar y laf o Fawrth, 1743, o Gyfar- fod Misol Glan-yr-afon-ddu, fel hyn: —" Mae y gwaith yn myned ar y