Skip to main content

Y DEYSOEPA. Rhif 752.] MEHEFIN, 1893. [Llyfr LXIII. TRYDEDD JIWBILI Y CYFUNDEB.—HANES EIN DECHREÜAD. GAN Y PAECH. JOHN DAVIES, PANDY. YSGRIF I. Cant a hanner o flynyddau ar gyfer y flwyddyn hon y darfu i'r tadau Methodistaidd ddechreu trefnu a deddfu—cant a hanner o flynyddau i'r flwyddyn hon y dechreuwyd cynnal Cymdeithasfa a Chyfarfod Misol; a chant a hanner o flynyddau i'r flwydd- yn hon yr ymadawodd y cyntaf o'r tadau Methodistaidd â'r Eglwys Sef- ydledig. Wrth y Drydedd Jiwbili, gan hyny, y golygwn fod ein Cyfundeb eleni yn cyrhaedd diwedd y Trydydd Hanner Canrif yn ei hanes. Prin y byddai yn briodol i adael i'r flwyddyn hon fyned heibio heb alw sylw arben- ig at y càm pwysig a gymerodd «in tadau yn y flwyddyn 1743, er hy- rwyddo y gwaith mawr a ddechreuwyd ganddynt rai blynyddau yn gynnar- ach. Cant a hanner o flynyddau i fis lonawr diweddaf y cynnaliodd y tadau Methodistaidd y Gymdeithasfa gyntaf yn Nghymru; a'r unnifer o flynyddau i fis Ebrill diweddaf yr ymadawodd y Parch. William Williams, Pantycelyn, â'r Eglwys Sefydledig. Gŵyr y rhan fwyaf o aelodau ein Cyfundeb mai yn Watford y cynnal- iwyd y Gymdeithasfa gyntaf, ond dichon nad oes ond ychydig yn gwy- bod dim am Watford, na phaham y cyfarfyddodd y tadau yno, yn hytrach nag mewn rhyw le arall yn Nghymru. Fe allai, gan hyny, mai nid annyddor- ol fyddai nodi allan yr amgylchiadau a arweiniodd i'r Cymdeithasfaoedd cyntaf gael eu cynnal yn Watford. Yr oedd yn mhlwyf Eglwysilan, o fewn pa un y saif Watford, amryw o Ymneillduwyr er dyddiau yr Anghyd- ffurfwyr, weâi bod yn addoli, o oes i oes, mewn annedd-dai a drwyddedwyd at wasanaeth crefyddol. Yr oedd William Erbury, cydoeswr a chydlaf- urwr â Walter Cradoc, wedi ei eni a'i fagu heb fod ymhell o Watford; ac wedi iddo gael ei droi allan o Eglwys Fair, Caerdydd, bu yn pregethu Uawer rhwng Watford a Chaerdydd. Yn y flwyddyn 1712, daeth y Parch. Rice Protheroe, gŵr genedigol o Lanym- ddyfri, i fod yn weinidog rhwng Caer- dydd a Watford. Yr oedd Mr Pro- theroe wedi ei ordeinio, yn y flwydd- yn 1712, i fod yn weinidog yn nghym- ydogaeth Llanfyllin. Yr oedd Mat- thew Henry, yr esboniwr, yn un o'r rhai oedd yn cymeryd rhan yn ei urdd- iad. Bu Mr. Protheroe farw tua'r flwyddyn 1733. Yr ydym yn awr yn dyfod at y ddolen sydd yn cysylltu Howell Harries â chymydogaeth Wat- ford. Dilynwyd y Parch. Rice Pro- theroe yn Watford gan y Parch. David Williams, gŵr wedi ei eni yn Mhwll- y-pant, o fewn dwy filldir i Watford. Yr oedd rhieni Mr. WilHams yn gyf- oethog—yn berchenogion Pwll-y-pant,