Skip to main content

x dhxso:r:fa. Rhif. 734] RHAGFYR, 1891. [Llyfr LXI. Y PRIFATHRAW DAVID CHARLES DAVIES, M.A. GAN Y PARCH. JOHN PULESTON JONES, B.A., BANGOR. Ganwyd y diweddar Brifathraw yn | Aberystwyth, yn y flwyddyn 1826. | Un o deulu cefnog cyfrifol yn nghẁr ■ dehau Sir Feirionydd oedd ei dad; merch David Charles o Gaerfyrddin oedd ei fam,—nith, felly, i Charles o'r Bala,—ac Iuddewes Ellmynig oedd ei mam hithau. Adroddir i ryw hetiwr sylwi ar ffurf pen Mr. Davies, mai pen Ellmyn oedd, crynach, eb efe, na phenau y cyfifredin o Brydeinwyr. Nis gwn pa le y mae athrawiaeth y penau arni hi erbyn hyn. Diau iddi newid cryn dipyn yn yr ychydig flyn- yddoedd sydd er pan ddywedodd yr hetiwr hyny; ond beth bynag am yr athrawiaeth, fe darawodd yr hetiwr ar y gwir, wrth weled cymaint a hyn o'i nain yn Mr. Davies. Bu yn ysgol enwog John Evans o Aberystwyth, ysgol y buasai y Dr. Edwards ynddi o'i flaen. Dyweder a fyner, y mae rhywbeth mewn ysgol, er fod yn o anhawdd dywedyd pa beth. Dyna Alford, a Lightfoot, a Westcott—tri beirniad Ysgrythyrol penaf Lloegr— wedi bod, ar wahanol adegau, dan yr un athraw ; a dyna ddau brif feddyl- iwr y Methodistiaid Cymreig,—o blith y rhai sydd yn ysgolheigion, heblaw bod yn feddylwyr,—wedi codi bron o'r un gymydogaeth, ac wedi bod trwy yr un ysgol,—Dr. Edwards a David Charles Davies. Erbyn ei fod ef rhwng un ar ddeg a deuddeg oed, aethai Lewis Edwards i'r Bala i gychwyn yr ysgol yno; ac aeth yntau yno yn blentyn, yn un o'r efrydwyr cyntaf. Y mae hen chwaer eto'n fyw, sy'n cofio, pan yn y Bala yn dysgu gwnio, i rywrai alw ei sylw hi at y ddau fachgen harddaf yn y Coleg,—dau ŵr boneddig y Cyfandeb, — David Charles Davies a John Foulkes Jones. Hyfryd yw meddwl yn awr wrth edrych yn ol, nid fod gan y Corff ddau ŵr boneddig ar restr ei bregethwyr, ond na ddarfu i'w bon- eddigeiddiwch ddyfetha dim mym- ryn ar yr un o'r ddau. Nid oedd David Charles Davies mor hoff o chwareu ag y buasai'n dda iddo fod; ac ni chefnogwyd hyny o duedd chwareu oedd ynddo. Annogwyd ef, fwy na pheidio, i lynu wrth ei lyfrau a'i fyfyrdodau. Ychydig, o ganlyniad, o ddireidi bachgen a welid ynddo: ychydig, beth bynag, a ddaeth i'r golwg yn y ffyrdd arferol. Dywedai William Charles, Gwalchmai, amdano, na syrthiodd o 'rioed ar ol syrthio yn Eden. Gadawodd ei duedd fyfyrgar, neillduedig, ei hol arno mewn mwy nag un cyfeiriad. Dyoddefodd ei iechyd beth o'r herwydd. Ac heblaw hyn, tyfodd i fyny yn Ued ddiystyr o bethau cyffredin, os nad yn hanner dyeithr iddynt. Gwir y dylynai sym- udiadau gwladol yn lled ofalus; ond dyddordeb edrychydd oedd ei ddydd- ordeb ef yn y rheiny. Y mae gan bob pregethwr, braidd, ryw ddifyrwch o'i eiddo'i hun, y tu allan i gylch penodol ei waith: yr Eisteddfod gan un, y wasg newyddiadurol gan un arall, daeareg gan arall, physigwriaeth gan 2 L