Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DETSOEFA. Rhif. 733.] TACHWEDD, 1891. [Llyfr LXI. GWLEDD CEIST GYDA'I BOBL. Pregeth a draddodwyd yn Nghymdeithasfa Porthaethwy, Bhagfyr Ifed, 1880, GAN Y DIWEDDAR BAROH. DR. EDWARDS, BALA. (Ysgrifenwyd wrth ei gwrando gan y Parch. R. H. Mobgan, M.A., Abermaw.) Matthew xxvi. 29 : " Ac yr yâwyf yn dywedyd i chwi nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fyNhad." Cawn yma hanes y cyfnewidiad mwy- af a fu erioed yn hanes crefydd; yr hen oruchwyüaeth Iuddewig yn ter- fynu, a goruchwyliaeth newydd Crist- ionogaeth yn cael ei dwyn i mewn. Ac eto cyrnerodd hyn le heb yr un trwst na dim rhodres, ond mewn dull oedd yn ymddangos yn ddull naturiol. Nid fel chwyldroadau y byd yma. Bydd yno derfysg a swn, ac ychydig iawn o effaith wedi hyny. Ond dyma gyfnewidiad na bu ei fath erioed, a hyny mewn dull dystaw, tawel, yn yr oruwchystafell. 'Dwn i ddim a fyddai yn anmhriodol dyweyd nad aeth yr Arglwydd Iesu i'r drafferth yn ffurf- iol i ddifodi yr hen oruchwyliaeth. Gwnaeth hyny yn effeithiol, ond nid trwy dori yr hen bren i lawr y gwnaeth hyny, ond trwy impio y newydd yn yr hen. Impiodd sacra- ment Swper yr Arglwydd yn sacra- ment y Pasc. Mae yn debyg mai bara yr oedd wedi cymeryd rhan o hono at gadw y Pasc a neillduodd i gofio am ddryllio ei gorff, a'r gwin oedd wedi ei barotoi at y Pasc, y pedwerydd gwpan, meddai y beirniaid, o Swper y Pasc, a neillduodd drachefn i gofio am dywallt ei waed ef. Yr ydych yn I bur hysbys o'r geiriau, ac felly ni wnaf aros ond myned ymlaen at y j testyn. " Ac yr ydwyf yn dywedyd i ' chwi nad yfaf o hyn allan o ffrwyth 1 hwn y winwydden, hyd y dydd hwnw " I —rhyw ddydd y bydd yn yfed gyda'i j ddysgyblion eto yn " nheyrnas ei ; Dad." Mae yn debyg fod yn rhaid i ; ni gytuno mai wrth deyrnas ei Dad ! yn y fan yma y mae i ni ddeall y I nefoedd. Nid ydym i ddysgwyl cyf- ! lawniad o'r geiriau hyn tu yma i'r ! nefoedd. Y mae blaenbrawf o honynt i'w gael yma, ond y mae y geiriau yn cyfeirio yn fwyaf neillduol yn ddi- ammheu at ryw wledd y bydd yr Iesu yn ei chadw gyda'r saint yn y nef- oedd. Pa fodd y mae yn meddwl y bydd yno yfed o ffrwyth y win- wydden yn y nefoedd ? Y mae y gair yma yn rhoi goleu ar hyn—"hyd y dydd hwnw pan yfwyf gyda chwi yn newydd—yn neioydd." Mae dau air yn caei eu cyfieithu yn newydd yn y Testament Newydd. Y mae un yn arwyddo peth newydd ddyfod i fod, ond nid dyna y gair sydd yn yr adnod yma. Nid gwin newydd ei wasgu a feddylir yma, o'r grawnsypiau, ond gair arall gwahanol hollol a geir yma. 2 H