Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEPA. Rhif. 739.] HYDREF, 1891. [Llyfr LXI. DYNOLDEB EFENGYL LUC. GAN Y PAEOH. WILLIAM EYANS, M.A., PEMBEOEE DOOK. Y mae Matthew yn galw ei Efengyl yn "llyfr cenedliad Iesu Grist, fab Dafydd, fab Abraham." Yr enw y mae Marc yn ei roddi ar ei lyfr ydyw "Efengyl Iesu Grist, Fab Duw." Dywed Ioan am ei Efengyl, " y pethau hyn a ysgrifenwyd," a desgrifìa ei hun fel "y dysgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifenodd y pethau hyn." Y teitl a roddir gan Luc i'w Efengyl yw "traethawd." Ac yn ei ragarweiniad mae yn arwyddo y ffynnonellau o ba rai yr oedd wedi cael defnyddiau ei draethawd. Mae yn cyfeirio at amryw ysgrifeniadau blaenorol—" yn gymaint a darfod i lawer gymeryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddiammheu jn ein plith." Fe ddichon, ac nid yw yn annhebyg, fod Efengylau Matthew a Marc ymhlith yr ysgrifeniadan neu draeth- odau ag y mae Luc yma yn cyfeirio atynt. Ond y mae yn eglur fod yma gyfeiriad at y nifer o lawysgrifau yn cynnwys mwy neu lai o hanes Iesu Grist, am y rhai nid oes genym yn awr ddim gwybodaeth. Mae yr Ef- engylwr hwn yn cyfeirio hefyd at gred- iniaeth ddiysgog ei gydoeswyr—" y pethau a gredir yn diammheu yn ein plith." Â'r ffynnonell arall o ba un y mae yn tynu ei ddefnyddiau ydyw traddodiadau Uygad-dystion a gwein- idogion y gair—»" megys y traddod- asaot hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain o'r dechreuad yn gweled, ao yn weìnidogion y gair." Y mae yn amlwg hefyd i Luc arfer gofal manwl mewn cymharu yr ysgrifeniadau a'r adroddiadau fel ag i allu ysgrifenu ei Efengyl mewn trefn—" Minnau a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o*r dechreuad, ysgrif- enu mewn trefn atat, 0 ardderchocaf Theophilus." Fe amlygir yma fod " traethawd" Luc wedi ei ysgrifenu at wasanaeth person neillduol, " fel y ceit wybod sicrwydd am y pethau y'th ddysgwyd ynddynt." Yr oedd Ûygad Ioan ar liaws o bersonau pan yn ysgrifenu ei Efengyl. "Eithr y pethau hyn a ysgrifenwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef." Y mae yn eglur fod Matthew yn ysgrifenu ei Efengyl at yr Iuddewon, i brofi mai Iesu o Nazareth ydoedd y Messiah addawedig. Nid yw yn cael ei amlygu fod Marc yn ysgrifenu ar gyfer neb yn neillduol. Ond wele Luc yn paro- toi ei " draethawd" i'w ddanfon at berson unigol. Ac y mae yn gweith- redu felly oddiar gymhelliad yn tarddu o'i feddwl ei hun—" Minnau a welais yn dda." Fe ddichon fod rhai o'r llawysgrifau y mae yn cyfeirio atynt yn fychain ac yn anorphenedig, a bod perygl iddynt fyned ar goll. Yr oedd yntau trwy gyffyrddiad agos & rhai o'r apostolion, ac yn enwedig â Phaul, mewn mantais i feddu gwybodaeth helaethach a mwy sicr am hanes 2 E