Skip to main content

X DEYSOEFA. Rhif. 731.] MEDI, 1891. [Llyfr LXI. Y DIWEDDAR BARCHEDIG OWEN THOMAS, D.D., LIVERPOOL. GAN Y GOLYGYDD. Pell oeddym o feddwl, pan yn dechreu tymmor pum' mlynedd gol- ygiaeth y Drysorfa, y buasai y gwaith o ysgrifenu erthygl ar " y diweddar Dr. Thomas " yn dyfod i'n rhan rhyw ddeng mis cyn diwedd y tymmor. Anhawdd iawn yw cysylltu y gair " diweddar " âg enw mor hofF, mor gysegredig, enw a fu o flaen llyg- aid ac yn ngeneuau ein cenedl, fel un o brif enwau y Cyfundeb, am dros hanner cant o flynyddoedd! Ond pa mor anhawdd bynag, gwneyd sydd raid. Ac nid oes yma ddim i synu ato. Onid dyma hanes ein byd ni o'i ddechreuad—" diwedd ar bob per- ffeithrwydd ?" Ië: ond yn iaith amser ac yn ngoleuni y byd hwn y mae felly. Y mae yr ysbrydol ar y ddaear yn dragywyddol. Nid yn parhau am amser hŵy na'r materol, ond yn gyfryw nad yw amser yn perthyn iddo o gwbl. Y mae yn dra- gywyddol yn ei natur, ac am hyny yn dragywyddol yn ei barhad: " y pethau ni welir sydd dragywyddol." Y mae diweddiadau y byd hwn yn ddechreuadau y byd arall. Felly ein hanwyl frawd a thad—am yr hwn y mae Cyfundeb y Methodist- iaid a ohenedl y Cymry heddyw yn galaru am na ohânt weled ei wyneb hawddgar na ohlywed ei lais effeithiol mwy—y mae yn fyw heddyw, yn " fyw i Dduw," yn fwy byw Dag y bu erioed o'r blaen, er ei fod bob amser yn llawn o fywyd, ao—fel y dywedai Dr. Saunders ar làn y bedd—yn un | o'r dynion mwyaf byw a adwaenasom j erioed. 0 ran hyny, yn awr y mae I yn fyw mewn gwirionedd, wedi myned j allan o'r chrysalis, i ehedeg yn awyr I bur y bywyd. Yn awr y mae wedi I myned i feddiannu etifeddiaeth y | bywyd. Dynwarediad o fywyd sydd | yma,— Chwareu byw a deehreu bod. Yno y mae bywyd a gwaith sylweddol, a goleuni " na welwyd yn Eden mo'i ryw." Pa fodd y mae ein hanwyl gyfaill yn edrych yn awr o'r ystâd ddyrchafedig hono at y Cymanfaoedd y bu mewn cynifer o honynt, y rhai y mae mor anhawdd eu sylweddoli heb- ddo, yn y rhai y gwrandawai pawb ar ei eiriau gyda'r fath barch pan yn ymdrin âg achosion y Cyfundeb ? Pa fodd y mae yn edrych ar yr " odfa ddeg o'r gloch " ar y maes, pan y byddai â'i lais grymus ac effeithiol uwch ben y miloedd, yn eglurhau y Gair trwy bregethu, yn tystiolaethu efengyl gras Duw, yn cyhoeddi cenad- wri y cymmod, yn galw, yn gwahodd, yn "perswadio dynion," yn dysgu ac yn rhybuddio pob dyn er mwyn " oyf- lwyno pob dyn yn berffaith yn Nghrist Iesu? " A yw efe yn edryoh ar hyny bellach gyda gwên, fel y bydd gẃr wrth adgofio ei floesg-leferydd a'i ddifyrion plentynaidd? Pa fodd y mae yn edryoh arno ei hunan yn ei efrydfa, yn nghanol ei lyfrgell- ardderohog, yn darllen, yn myfyrio, yn ysgrifenu yr "Esbouiad ar yr a b