Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEISOEPA. Rhif. 730.] AWST, 1891. [Llyfr LXI. TARDDIAD DYODDEFAINT. GAN T PARCH. J. PEYOE DAYIES, M.A., CAER. Ffaith anwadadwy ydyw fod yn ein byd ni lawer iawn o ddyoddef. Y mae hyn yn wir am bob dosbarth o ddyn- ion ymhob oes o'r byd. Nid y rhai drwg yn unig sydd yn gorfod dyoddef, ond y rhai da hefyd, ie, y rhai goreu a welodd y byd erioed—rhai nad ydyw y byd deilwng o honynt. Cawn y Salmydd duwiolfrydig yn cyfeirio deir- gwaith at ei ddyoddefiadau o fewn ter- fynau rhyw ugain adnod yn y Salm Fawr. " Dyma fynghysur yn fy nghys- tudd; canys dy air di a'm bywhaodd " (adn. 50). " Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni; ond yn awr y cedwais dy air " (67). " Da yw i mi fy nghystuddio, fel y dysgwn dy ddeddfau" (71). Y mae yn debyg nad ydym i gyfyngu y gair "cystudd" yn yr adnodau hyn i afiechyd a phoen corfforol. Gall gynnwys pob poen, pob blinder, a phob fiurf ar ddyoddefaint Aml a blin ydyw cystuddiau plant dynion, ond rhoddi yr ydym ystyr eang yma i'r gair cystudd. Amryw- iol iawn ydyw y ffurfiau sydd ar ddy- oddef yn yhyd yr ydym yn awr yn byw ynddo. 'Nid oes neb, beth bynag all fod ei amgylchiadau a'i sefyllfa, nad ydyw i raddau mwy neu lai yn cyfranogi o'r dyoddefìadau hyn mewn rhyw ffurf neu gilydd. Yn awr, gan fod dyoddefaint wedi ymwau â holl amgylchiadau y bywyd hwn, a bod sefyllfa yn y byd nesaf nad oes dim ond dyoddefaint digymysg ynddi, na- turiol ydyw gofyn cwestiynau tebyg i'r rhai canlynol, Beth ydyw yr achos o'r dyoddefìadau hyn ? Mewn pa beth maent wedi gwreiddio ? Os ydym am olrhain dyoddefaint i'w darddiad gwreiddiol, y mae yn rhaid i ni fyned can belled a dyfodiad pechod i'r byd. Pechod ydyw yr achos o bob dyoddefaint. Pe na buasai pechod wedi dyfod i'r byd, ni buasai dyoddef- aint mewn unrhyw ffurf arno wedi gwneuthur ei ymddangosiad ynddo. Rhywbeth ddaeth i fod tu allan i Dduw ydyw pechod, ac nid oes dim arall yn y llywodraeth Ddwyfol wedi dyfod i fod tu allan iddo ond pechod a'i ganlyniadau, ac un o'r canlyniadau hyny ydyw dyoddefaint ymhob ffurf arno. Pa f odd y daeth pechod i'r byd sydd ofyniad nad ydyw gallu dyn hyd yn hyn wedi gallu treiddio i'w waelodion. Wrth feddwl am dano yr ydym yn canfod fod iddo wedd ddyblyg, sef y posiblrwydd iddo ddyfod i fod gyda golwg ar ddyn, a'r catíiatâd iddo ddy- fod i fod gyda golwg ar Dduw. Gelílr gosod allan y wedd gyntaf arno trwy ofyn, Pa fodd y gellid hudo natur oedd mewn ystyr foeeol yn hollol bur, i gyfiawni gweithred oedd yn ddrwg moesolì Gellir gosod allan yr ail wedd arno trwy ofyn, Pa fodd y can- ìataodd y Bôd Anfeidrol, yr hwn sydd yn berffaith mewn purdéb, ao yn ddiderfyn mewn gallu, i ddrwg moesol ddyfod i mewn i'w lywodr- aethì