Skip to main content

Y DETSOEFA. Rhif. 729.J GORPHENAF, 1891. [Llyfr LXI. ANERCHIAD WRTH ADAEL CADAIR Y GYMANFA GYFFREDINOL, YN NHREFORRIS, MEHEFIN 22, 1891. GAN Y PAROH. DANIEL ROWLANDS, M.A. Anwyl Feodyr,—Mae yn dra hyfryd i ni gael cyfarfod ein gilydd fel rhai yn cynnrychioli cynifer o'n cydwlad- wyr sydd dros Gymru oll, yn gystal ag mewn rhanau eraill o'r byd, yn proffesu Crist, ac yn dangos cymaint o gariad a ffyddlondeb gyda gwaith ei deyrnas. Mae yn ofidus genym ein bod eleni eto yn gorfod cwyno o her- wydd cymeryd oddiwrthym frodyr a thadau oedd yn barchedig ac anwyl iawn yn ein golwg, ac yr ydym o her- wydd eu hymadawiad yn teimio lawer yn eiddüach. Ond mae yn gweddu i ni gofio eu bod eto lawer yn nês atom nag y tueddir ni i feddwl. Y mae rhai, nad ydyw anf arwoldeb yr enaid a'r fuchedd dragywyddol ond fel chwedl yn eu golwg, eto yn cadw y syniad am eu hanwyliaid ymadawedig o flaen eu meddwl fel presennoldeb parhaus; y maent yn teimlo yn gryfach am eu bod yn coledd cof byw am danynt, ac yn dychymygu eu bod eto yn agos. Gallwn ni wneyd llawer mwy. Nid yn unig yr ydym i fawrhau rhinwedd- au ein tadau a'n brodyr, a dal ein gaf- ael yn ngwersi eu doethineb; ond gallwn hefyd deimlo yn gwbl hyderus eu bod yn fyw, a'u bod gyda ni, ac fod y dyddordeb a deimlant ynom ac yn y gwàith a adawyd yn ein dwylaw, yn gryfach ac yn fwy cynhes nag erioed. Y mae oymaint owmwl o dystion wedi ei ostfd o'n hamgylch; yr ydym yn nghanol oymanfa a ohynnulleidfa y rhai cyntafanedig. Yn ngoleuni yr ystyriaeth yma, a chan gredu yn mhresennoldeb yr Un Bendigedig sydd wedi ymrwymo bod gyda'i bobl bob amser hyd ddiwedd y byd, yr wyf yn teimlo fod pwysigrwydd arbenig yn ein cynnulliad presennol, ac y dylai fod yn y geiriau a ddysgwylir ar y fath adeg oddiwrth yr hwn sydd yn eich anerch, fywyd a nerth nad all ond prin obeithio eu cyrhaeddyd. "Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost, ae i ba le yr äi di ? " Y mae cwestiwn yr ymwelydd nefol i'r ffoad- ures yn yr anialwch yn dra theilwng, ar y fath achlysur a hwn, o'n hystyr- iaeth ninnau. Beth ydyw y gorphen- ol ar ba un yr ydym yn edryoh yn ol; beth ydyw y dyfodol ar ba un yr ydym yn edrych ymlaen? Pa waith sydd genym i'w wneuthur, ac ymha ysbryd yr ydym i wynebu arno ? Nid oes neb o honom, mi hyderaf, a betrusai i gredu fod i ni berthynas â theulu Duw trwy yr oesoedd. *Er mor ddyrchafedig yw y syniad am "ogoneddus gôr yr Apostolion, mol- iannus nifer y Prophwydi, ardderchog lu y Merthyri, a'r Eglwys lân trwy yr holl fyd," ni a hyderwn nad yw yn ormod i ni gredu ein bod ninnau mewn cyfathrach agos â hwynt. Yr ydym "yn plygu ein gliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist, o'r Hwn yr enwir yr holl deulu," yr holl dadol- aeth sanctaidd, " yn y nefoedd ao ar