Skip to main content

X DETSOEPA. Rhif. 728.1 MEHEFIN, 1891. [Llyfr LXI. CYNNALIAETH Y WEINIDOGAETH YMYSG Y METHODISTIAID. Anerehiad a draddodwyd yn Nghyfeisteddfod y Diaconiaid yn Nghym- deithasfa Conwy. Cyhoeddir yn ol penderfyniad y Gymdeithasfa. GAN MR. PETER ROBERTS, LLANELWY. 0 dan arngylchiadau cyffredin, pan y byddo cyfundeb crefyddol newydd yn cael ei ffurfio, un o'r cwestiynau cyntaf a phwysicaf i fýnu ystyriaeth ydyw cynnaliaeth y weinidogaeth. Felly y mae wedi bod mewn gwledydd neu drefedigaethau newyddion, lle yr ym- sefydlai ymfudwyr, ac y dechreuent ffurfio eglwysi a chyfundebau, un o'r | anhawsderau cyntaf i'w cyfarfod yd- j oedd cynnaliaeth y weinidogaeth. i Felly hefyd mewn hen wlad, pan j fyddo nifer mawr o grefyddwyr, o herwydd rhyw resymau a farnont hwy yn ddigonol, yn dyfod allan o un cyfundeb ac yn ymffurfio yn gyfundeb newydd, megys y bu yn Scotland yn y flwyddyn 1843, pan adawodd nifer mawr yr Eglwys Sefydledig yn y wlad hono ac y ffurfiasant yr Eglwys Rydd —un o'r cwestiynau cyntaf i hawlio eu hystyriaeth ydoedd cynnaliaeth y weinidogaeth. Ond fe ddaeth y Cyf- undeb Methodistaidd yn Nghymru i fodolaeth o dan amgylchiadau mor hynod ac mor eithriadol fel na chod- odd y cwestiwn i nemawr sylw ynddo am lawer o flynyddoedd ar ol ei gychwyniad. Un rheswm am hyny, mae'n ddiau, oedd y ffaith nad oedd y Tadau Methodistaidd ar y cyntaf yn bwriadu sefydlu cyfundeb parhaus yn y wlad, ac yr oedd amryw o honynt yn dal bywioliaethau yn yr Eglwys Sefydledig, ac felly yn cael eu cynnal- iaeth oddiyno tra yn efengylu i'w cyd- wladwyr. A phan gododd eraill i fyned oddiamgylch i wneuthur yr un gwaith, nid oedd neb yn meddwl rhoddi iddynt ond ychydig gydna- byddiaeth i gyfarfod â'u traul teithio. Yr oedd hyn wedi bod mewn arferiad mor hir ymhlith y Methodistiaid, fel pan y darfu iddynt benderfynu ym- gorffori yn gyfundeb parhaus, ac ordeinio gweinidogion iddynt eu hun- ain, nid oedd ganddynt syniadau Ysgrythyrol na rhesymol am berthyn- as y gweinidogion hyny â'r eglwysi, na rhwymedigaeth yr eglwysi i'r gweinidogion. Yr oedd syniadau y Tadau Methodistaidd eu hunain yn eithaf clir ar hyn, ac yr oeddynt hwy yn trefnu arolygiaeth weinidogaethol i'r eglwysi hyd yn nod cyn bod son am i'r eglwysi hyny ymgorffori yn gyfun- deb; a phe buasent hwy yn gallu rhagweled y buasai y diwygiad mawr ag yr oeddynt hwy yn offerynol i'w ddwyn oddiamgylch yn arwain i sefydliad cyfundeb parhaus, diammheu y buasent hwy yn gwneyd rhyw ddar- pariaeth ar gyfer gweinidogaeth reol- aidd, a chynnaliaeth resymol iddi, fel y gwnaeth John Wesley tua'r un adeg yn Lloegr. Ond gan ma i tyfu a wnaeth y Cyfundeb rywfodd ýn ddiarwybod iddo ei hun, ni chafodd y cwestiwn