Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEFA. Ehif. 727.J MAI, 1891. [Llyfr LXI. CYMHWYSDEEAU Y WEINIDOGAETH. (Cynghor i Efrydwyr Trefecca, a draddodwyd Mehefin 29, 1876.) GAN Y PAECH. DAYID EDWAEDS; NEWPOET. Fy Mrodyr Ieuainc yn Ngweinid- ogaeth Efengyl Crist,—Cymeraf fantais i'ch cyfarch ar yr achlysur presennol oddiwrth eiriau yn Epistol Paul at y Ehufeiniaid, pennod xv. adn. 29, "Amia wn pan ddeuaf atoch y deuaf â chyflawnder bendith efengyl Crist." Anerchaf chwi heddyw fel rhai wedi ymgysegru i fod yn genadau dros Grist, a rhai sydd yma megys yn gwregysu eu lwynau ac yn gwisgo eu harfau, gyda'r bwriad i gymeryd rhan yn yr ymdrechfa fawr rhwng teyrnas Emmanuel a theyrnas Satan ar y ddaear. Yr ydych yma yn derbyn y cyfryw addysg a all fod, dan fendith Duw, yn gynnorthwyol i chwi i gyf- lawni'r gwaith yr ydych wedi ymroddi iddo mewn modd effeithiol, er achub- iaeth eneidiau a gogoniant Duw. Mae'r swydd yr ydych yn wynebu arni yn oruchel, pwysig, ac anrhyd- eddus; ac y mae'r cyfrifoldeb sydd ynglŷn â hi yn gyfatebol. Cofiwch mae llygaid llawer arnoch, ac y mae llawer yn pryderus ofalu am danoch *<ra yr ydych yma yn yr Athrofa. Mae gan rai o honoch eich rhieni naturiol a'on perthynasau yn ol y cnawd yn teimlo pryder yn eich achos ; mae yr Eglwysi o ba rai y daethoch allan, Cyfarfodydd Misol y Siroedd ddarfu eich cymeradwyo i fyned i'r Athrofa, ac y mae y Cyfeis- teddfod, a'r Athrawon, yn teimlo dyddordeb ynoch, ac yn dymuno eich llwyddiant. A fydd i chwi droi allan cystal neu yn well na'r dysgwyliadau a goleddir gan eich cyf- eillion am danoch ? neu a siomir hwy ynoch ? Ar eu rban hwy, ac ar fy rhan fy hun, gwir ddymuniad fy nghalon a'm gweddi ar Dduw drosoch ydyw, ar fod i bob un o honoch ar eich myned- iad allan o'r Athrofa, pryd y byddwch ar ddychwelyd at yr Eglwysi, allu mabwysiadu ymadrodd yr Apostol, gan ddywedyd, " Ni a wyddom pan y delom atoch, y deuwn â chyflawnder bendith efengyl Crist." Ond os myn- wch arfer geiriau Paul rhaid i chwi fod yn gyfíelyb i Paul. Yr oedd ef yn meddu cymhwysder naturiol i'r gwaith yr oedd Duw mewn amser cyfaddas i'w alw iddo. Cyfarfu yr Iesu âg ef ar y ffordd, ymddyddanodd âg ef am ei achos personol, ac am y swydd weinidogaethol, i'r hon yr oedd yn ei alw. Mewn canlyniad i hyn y darfu iddo ef ymroddi mewn modd hollol, i fod yn ddysgybl ac yn Apostol. Ymrodd- odd—ymgysegrodd ar unwaith i waith y weinidogaeth: o hyny allan preg- ethu Crist oedd amcan mawr ei fywyd; os gwnai rywbeth arall, yr oedd hyny yn unig er cael gwell man- tais i'r weinidogaeth. Dyfeisiai, cyn- lluniai, rhoddai ei holl fryd ar dalu y