Ŵronicl ffltnaöol. Sjl&tt. Lltthyr oddiwrth Miss S. M. Dass. Diau mai da fydd gan lawer o'n darllenwyr weled y cytieithiad a ganlyn o lythyr a dder- byniwyd oddiwrth Miss S. M. Dass, merch ieu;inc sydd er ys tua thair blynedd wedi bod yn gweithio mewn cysylltiad â'n Cenadaeth yn Sylhet. Merch ydyw i Babu Gour Churn Da«s, fu flynyddoedd yn ol yn ngwnsanaeth y Genadaeth fel athraw a phregethwr brodor- ol. Pan y rhoddwyd y Genadaeth i fyny cymerodd ef swydd dan y Llywodraeth, ac y mae erbyn hyn wedi cyrhaedd safle anrhyd- eddus, ond yn parhau yn Gristion ffyddlawn a gweithgar. Mae ei dilwy ferch yn dra gwasanaethgar i'r efengyl. Cyflwynwn apêl Miss Dass i sylw ein merched ieuainc. Sylhet, Ionawr 22, 1891. A Ferched Ieuainc Eglwysi y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru. Anwîd Chwiorydd, Dymunwyf ysgri'enu ychydig linellau atoch i ddangos i chwi gymaint yw ein hang- hen am eich cynnorthwy. Gwyddoch eisoes ein bod yn dysgwyl yn bryderus am i rai o'r cbwiorydd yn eich plith ddyfod i'n cynnorth- wyo. Gan nad oes neb yn dytod allan, dy- uiunaf arnoch ystyried y peth yn y modd mwyaf difrifol. Ý mae y gwaith yma yn fawr, ac ychydig ydym ninnau yn gyf- lawni, gau ein bod can lleied mewn rhifedi. V r ydwyf am roddi i chwi ychydíg o hanes yr hyn yr ydym yn ei wneuthur yn rhai o'r Zenanas. Decbreuasom dnwy flyneddyn rl, ond hyd yn hyn, y mae'n ddrwg genyf ddy- weyd, nid ydym yn gweled dim Ifrwyth. Y mae'r bobl yn dra difater pan y llefarwn wrthynt am grefydd. Y maent yn gyffredin yn gwrando pan yr ymddyddenir à hwy y waith gyntaf, ond ychydig sydd yn parhau i gymeryd unrhyw ddyddordeb ar ol y trcion cyntaf. Y mae gan yr Hindwaid dduw yr hwn a elwir Rhrishno, ac nid ydynt yn gallu gwa- haniaethu rhwng y duw hwn â'n Criì-t ni. Byddwn yn ymdrechn egluro fod Crist yn hollol wahanol i Khrishno, ond ni chymerant eu perswadio genym. Dywedant wrtbym, " Hyn yw yr unig wahaniaeth—yr ydych chwi yn dywedyd Critt, ac yr ydym ninuau yn dywedyd Khrishno —un ydynt." Fel hyn yr ydym yn cael trafferth fawr i wneuthur iddynt ddeall. Nis gall y merched na llawer o'r dynion ddarüen eu llyfrau cysegrerìig, ac y maent yn hollol anwybodus ynghylch eu crefydd eu hunam. Glynant wrth y geiriau a ddysgant gan yr offeiriaid a'r hen 1 obl, ac ni wyddant ddim ond trwy draddodiad. Pan ofynwn iddynt pa fodd y dysgwyliant fyned i'r nefoedd, atebant yn gyffredin, " Bydd i Dduw ein hacbub;" a phan ofynwn pa fodd ? dywedant, " Trwy Khrishno. Yr ydych chwi yn dywedyd. 'tiwy Grist,' dywedwn ninnau trwy Khri- shno—yr un peth ydyw." 0 ! y mae yn anhawdd iawn eu ca*»l i ddeall ; nid ydynt yn ymdrec'iu deall, a byddwn yn digaloni yn aml. Gwyddom y bydd i Dduw ddwyn ffrwyth yn ei amser ei hun. Efe a ŵyr pa beth sydd oreu i ni. Anwyl ^yfeillion, byddai yn dda genyf pe y gall*n ddangos i chwi pa mor fawr ydyw y tywyllwch y mae ein chwiorydd yma yn byw ynddo. Y mae miloedd yn byw yn nghaetb- iwed arferiad a phechod, heb unrhyw obaith am ymwared hyd nes y cânt rywun i ddy- weyd wrthynt am gariad y fìwaredwr, ac oni chawn gynnorthwy buan bydd llawer o'r rhai hyn wedi myned allan o'n cyrhaedd i go led- igaeth. Oni ddeuwch chwi allan i weithio dros y Ceidwad, ac i gynnorthwyo ein chwiorydd anwybodus yma ? Y mae y cyn- hauaf yn fawr, ond y gweithwyr yn anaml, oni ddeuwch chwi i lafurio yn y rhan hon o winllan yr Arglwydd ? Yr wyf yn meddwl y gwyddoch pa fodd yr yroddygir tuag at y gweddwon yn y wlad hon. Nid ydyw gwragedd gweddwon Hindwaid y caste uchaf yn cael ond un pryd o fwyd yn y dydd. Mae pobl y parthau hyn yn arfer bwyta llawer iawn o bysgod, ond ni chaniat- eir i wratjedd gweddwon fwyta pysgod o gwbl. Ni chânt ymuno yn yr un o ddefodau y teulu, megys defodau priodas na gwledd- oedd. Ni wisgant ddüladau heirdd nac addurniadan Dirmygir hwy gan eu cym- deithion sydd wedi priodi. Arferem ddysgu gwraig weddw yr hon y mae ganddi ferch a dau fachgen. Gwran- dawaí yn astud bob amser pan y soniem wrthi am Iesu Grist. Oddeutu mis yn ol bu farw ei mam oedd yn byw gryn bellder o ffordd. Aeth yno, ac ni wyddom pa bryd y dychwel Gobeitbiwti y d-iw yn ol yn tuan. Byddai yn ddrwg genym ei cholli, gan ei bnd yn un mor ddymunol. Y mae yn dl iwd inwn, ?c y man hi a'i dau fachgen yn byw ar yr ychydig arian y mae yn dderbyn gan eu brodyr. Y mae ei merch yn briod. Hyler- wn yn fawr y bydd yn Gristion ryw ddiwr- nod. Byddwn yn myned hefyd i ddysgu ein cyfnitherod, y rhai ydynt Hindwaid—dwy chwaer, yr henaf yn weddw. Priododd pan yn naw mlwydd oed, a daeth yn weddw pau yn bedair ar ddeg. Y mae y ddwy yn am- ddtíaid. Yr oedd tair yn dytod i ddarllen i'r tý hwn, ond tua mis yn ol dywedodd eu perthynasau withynt nad oeddynt i ddysgu rhag i'w meiìdyliau gael eu llygiu. Dyma ydyw barn yr hen bobt. Yr ydym bron yn sicr nad oeddynt yn caru i ni ddyweyd wrthynt am Iesu Grist, rhag iddynt ddyfod yn Gristionogion. Chwi a welwch nad ydyw y gwaith yn hawdd. Gan ein bod mor ych- ydig mewn nifer, a chymaint o bobl o'n hamgylcb, nis gallwn gyrhaedd ond ychydig. A fyddnchchwi mor garedig ag anfou rhai drosodd i'n cynnorthwyo? Doallwn y gellir hebgor llawer. Am hyny ni a ddeií'yfwn t'el y Macedoniaid, " Deuwch drosodd a chyn- northwywch ni." Gyda chofion Ciistionogol, yr eiddoch yn ffyddlawn, S. M. Dass.