Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEFA. Bhif. 726.1 EBEILL, 1891. [Llyfr LXI. Y PABOH. W. EVANS, TONYBEFAIL. GAN Y PAEOH. W. JAMES, ABEEDAEE. ych i dreulio Sabboth mewn lle cyf- agos o'r un nodwedd. Anneddle lon- ydd ydoedd, oddeutu pedair milldir o bob lle yr oedd twrf y byd wedi cyr- haedd iddo; ond rhywfodd darganfydd- wyd y lle gan yr hen Fethodistiaid er ys rhagor na chan' mlynedd, ac yno y mae y capel hynaf fedd y Corff yn y Sir hon. Hyd yn ddiweddar nid oedd un enwad arall yn gwybod am ei fod- olaeth, ac nid oedd neb dyeithriaid yn croesi terfynau y fro dawel hon, ond ambell i fintai o Gripsies a elent yno i auafu, y rhai a gaent dderbyniad hy- naws gan y preswylwyr. Cof genym i ni gael ein dychrynu yn fawr ar y ffordd y bore Sabboth cyntaf erioed yr aethom yno trwy fod Gipsy melyn- ddu gyda ei ben allan trwy len ei babell, ac yn gofyn beth ydoedd hi o'r gloch. Pan yn adrodd ein hélynt, chwarddai y bobl yn iachus o her- wydd ein bod wedi cymeryd ein dychrynu mor ddiachos, a sicrhaent mai y bobl fwyaf diniwed ar y ddaear oedd y Gipsies. Cyrchai yr amaethwyr a'u gwasanaeth-ddynion i'r hen gapel hwn o ddwy a thair milldir o gylch, a dyddorol dros ben oedd gwrandaw arnynt yn y tŷ capel am hanner awr cyn dechre yr odfa bore Sul, yn holi hanes eu eymydogion o'r naill gẁr i'r llall i'r plwyf, a weithiau ymhell y tu hwnt i hyny, oblegid yr oedd yr holl wybodaeth a gasglwyd yn y farchnad yn Mhontypridd, y dydd Mercher blaenorol, yn cael ei chyf- Saif pentref bychan Tonyrefail ar lechwedd trum nad ellir yn briodol ei alw yn fynydd nac yn fryn; un o'r cefnau uchel ydyw sydd ar derfyn " Mynyddau " Morganwg, ac yn eu cysylltu â'r " Fro," yr hon sydd yn gorwedd rhyngddynt a'r môr. Nid yw mynyddoedd y wlad hon fel rheol yn fawrion ac ysgythrog, eithr ceinciau o fryniau porfaog ydynt. Nid yw y " Fro" chwaith, er ei bod yn cyn- nwys y tir pori cryfaf yn Nghymru, yn wastattir llyfn, eithr tonwedd ydyw. Yn y canol rhyngddynt ym- estyna ucheldir eang yn cael ei rychu yma ac acw gan gymoedd bychain, ac yn wrteithiedig gan mwyaf hyd y banciau uchaf. Ar lethrau y trum- au hyn y bu y Parch. W. Evans yn rhedeg ac yn chwareu yn blentyn; yma y bu yn llafurio fel amaethwr, ac y treuliodd ei oes hirfaith yn yfed yr awyr iach, ac yn cymdeithasu â natur, yn ei symledd yn hytrach nag yn ei harddanedd a'i phrydferthwch. Perthyna i'r bobl hefyd nodweddion neillduol a theilwng o efelychiad rhai a gawsant fanteision uwch ac a hon- ant bethau mwy. Nis gwyddom am un rhanbarth o'r Dywysogaeth lle y mae ychwaneg o garedigrwydd a brawdgarwch nag a geir ymhlith hen frodorion y darn yma o Forganwg. Ar ddechre ein gyrfa weinidogaethol, yr ydoedd yn dyfod i'n rhan yn fyn-