Skip to main content

Y DEISOEFA. Ehif. 725.Ì MAWRTH, 1891. [Llyfr LXI. PYSGODWRIAETH YSBRYDOL. GAN Y PARCH. J. D. SYMMONS, ABERGWAEN. Luc v. 5—U : " A Simon a ateboâd ac a ddywedodä wrtho, 0 Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasoui ni ddim, eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd, &c."* Yn y cysylltiad o flaen yr adnodau uchod cìwn yr Iesu wedi myned mor boblogaidd fel pregethwr, fel yr oedd y dyrfa yn pwyso ato i wrando gair Duw. Ac y mae yn ddiau er cymaint oedd eu hawydd hwy i'w glywed, fod mwy o lawer ynddo Ef i'w dysgu. Nid oedd eu gwaith yn pwyso ato, neu, yn llythyrenol, yn gorwedd arno, yn ei anfoddloni. Tra yr oedd attyniad ei eiriau grasusol yn rheswm dros iddynt ei ganlyn, eto dylasai urddas y siaradwr eu cadw * Yr hybarch Ddoctor Eees (Hiraethog), wrth bregethu ar yr adnodau hyn, a ddy- wedai:—"Yr oedd Petr yn trin y rhwydi yn Capernaum, a gẅelai y Pregethwr mawr yn dyfod i làn y môr. 'Wel.'Jmeddai Petr, 'os na chawsom bysgod, ni gawn bregeth.' Wedi i'r Iesu gyfarch ei ddysgyblion, holai sut noson a gawsant gyda'r fasnach bysgod. ' Af- lwyddiannus iawn,' meddai yntau, ' y noson salaf a gawsom erioed; poeni ar hyd y nos heb ddal dim; ni fuom yn bwrw y rhwyd o'r blaen heb ddal rhyw nifer. Ac yn wir,' meddai Petr, * yr oedd yn dípyn o siomedig- aeth i mi; y mae gan faer y dre' yma swper i fod heno, ac yr oeddwn wedi addo ei su%ipUo â physgod, a dyma fi heb ddalhin. Ac yn wir yr ydw i dipyn ar'ol gyda'r rhent hefyd, wn i ddim .beth a'Swnaf lynlüiawn.' ' Gwthia i'r dwfn,' meddai'r Meistr mawr, 'a bwrw dy rwyd am helfa.' 'Wel. y nos ydyw yr adeg oreu am bysgod, a'r 'glanau hefyd, yno y byddwn ni yn dalffwya'; ond ar dy air di, ni a fwriwn y rhwyd.' A chyda eu bod hwy yn y dwfn, dyna y rhwyd i lawr a'r pysgod yn ymwthio i rwyd Simon Petr, a'r helfamor drom nes tori y.;rhwyd."—Cofnodwyd gan Apeles. rhag bod mor eofn arno nes ei wneyd yn anghysurus. Wedi y cwbl, yn ll'e ceryddu y diffyg hwn o foesgarwch tuag ato, y mae yn hytrach yn annog eu hyfdra. Sylwer mai y bobl oedd yn pwyso ato. Yr oedd y cyfoethog- ion a'r rhai a lanwent swyddi uchel, gan mwyaf, yn e]yniaethus iddo; ond am y werinos, yr hyn a glywn yw, " A'r bobl (the common people) a'i gwrandawent ef yn ewyUysgar." Trwy ym^yriad JJiosog y dorf ar yr achlysur hwn, gorfodwyd yr Iesu i adael y làn, ac i wneyd pulpud iddo ei hun o gwch pysgota Simon. Beth na roisem ni am y fraint o fod yn y gymanfa hono, i glywed Pregethwr na lefarodd neb yn debyg iddo ? Ni thaflwyd rhwyd un amser o'r blaen o'r cwch bychan hwn felyrun a daflai Crist o hono yn awr, i geisio tynu pechaduriaid ato ei hun. Tra ar y tir yr oedd yn gwella cyrff afiach trwy ei gyflyrddiad. Yn awr, ar y llyn, y mae yn gwella eneidiau afiach â'i athrawiaeth. Wedi darfod â'i bregeth, y mae efe yn myned i ad-dalu Petr am ei garedigrwydd yn rhoi ei gwch at ei wasanaeth. Fedrwn ni ddim gwneyd y gymwynas leiaf i'r Iesu heb fod ar ein hennill. " Efe a ddywedodd with Simon, Gwthia i'r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa." Yr oedd Petr a'i gyfëillion wedi bod yn bwrw,