Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEFA. Rhif. 724.1 CHWEFEOR, 1891. [Llyfr LXI. YMGEISWYR CENADOL. GAN Y PARCH. JOSIAH THOMAS, M.A., LIYERPOOL. Mae yr adeg bresennol yn un o ddeffroad neillduol gyda'r gwaith Cen- adol ymysg bron yr oll o eglwysi Pro- testanaidd y byd. Anhawdd ydyw olrhain yr amgylchiadau fu yn ofieryn- ol i beri yr adnewyddiad hwn ar yr ysbryd cenadol. Diau fod teimlad yr Eglwys o'i dyledswydd tuag at y byd paganaidd wedi bod yn cryfhâu yn raddol er adeg yr adfywiad cenadol mawr gan' mlynedd yn ol. Darfydd- odd llawer o'r brwdfrydedd a arwein- iodd i sefydliad y prif Gymdeithasau, pan y siomwyd y dysgwyliadau gor- hyderus a goleddid, ac y gwelwyd nas gellid mewn ychydig fìsoedd wneyd i fyny am ddifiygion canrifoedd. Ond er i'r brwdfrydedd ddiflanu i fesur, parhaodd yr argyhoeddiad o ddyled- swydd yr eglwys i ymdrechu efengyl- eiddio y byd, ac ennillodd y teiml- ad Cenadol nerth adnewyddol gyda phob adfywiad ar grefydd yn ystod y blynyddoedd dilynol. Derbyniodd symbyliad cryf yn y Deyrnas hon ac yn America trwy yr adfywiad a gys- ylltir âg enw Mr. Moody, ac y mae y teimlad wedi bod, er y pryd hwnw, yn dwysâu ac yn ymledu. Yn eglwysi yr Unol Daleithiau y mae mwyaf o yni wedi cael ei ddangos hyd yma. Yno mae pob enwad crefyddol brori wedi cael ei fedyddio yn lled helaeth â'r ysbryd Cenadol. Ac y mae yn amlwg i'r rhai sydd wedi bod yn sylwi ar ysgogiadau crefyddol yn y wlad hon fod Cristionogion yn Mhryd- aia, yn ystod y deng mlynedd di- weddaf, wedi dyfod i deimlo yn fwy dwys eu rhwymedigaeth i wneyd ymdrechion mwy egniol yn mhlaid llwyddiant Toyraas y Gwaredwr. Nid ydyrn ninnau y Methodistiaid heb fod wedi cyfranogi i fesur o'r un teimlad. Dangosir hyn yn y dyddordeb cyn- nyddol a gymerir yn y gwaith, ac yn enwedig yn yr y chwanegiadau o fl wydd- yn i flwyddyn yn y cyfraniadau tuag at ei ddwyn ymlaen. Ac ar yr adeg hon. pan yr ydym yn coffhâu Jubili ein Cenadaeth, tra boddhaol ydyw gweled fod y llanw yn debyg o godi i bwynt uwch nag y cyrhaeddodd mewn unrhyw adeg yn hanes ein Cyfundeb. Bydd yr adnewyddiad ar yr ysbryd Cenadol yn rhwym o amlygu ei hun nid yn unig mewn parodrwydd ar ran caredigion yr efengyl i gyfranu eu heiddo tuag at hyrwyddo ei llwydd- iant, ond mewn parodrvvydd hefyd ar ran Uawer o'n gwỳr ieuainc a'n merch- ed ieuainc i gysegru eu hunain i'r gwaith. Fe ddywedir fod yn Athro- feydd Duwinyddol America dros dair mil o efrydwyr wedi arwyddo eu " hewyllysgarwch, os caniatâ Duw, i fyned allan i'r maes cenadol, mor fuan ag y byddant wedi myned trwy eu cwrs athrofaol," ac fod tua dwy fil o ferched ieuainc—llawer o honynt mewn ysgoHon athrawol a sefydliad- au addysgawl eraill—wedi ymrwymo i fyned allan fel cenadésau. Ad-