Skip to main content

Y DEYSOEFA. Rhif. 722." RHAGFYR, 1890. [Llyfr LX. CANMLWYDDIANT FATHER MATHEW. GAN Y PARCH. JOHN EYANS, ABEEMEUEIG. Mae y flwyâdyn 1890 yn un bwysig yn hanes yr achos dirwestol; a chyd- nabyddir hyny yn yr Iwerddon, a Uawer o ]eoedd eraill, trwy gynnal cyfarfodydd Canmlwyddiant yr enwog Barchedig Theobald Mathew. Adna- byddir ef yn gyffredin wrth yr enw Father Mathew, yn ol ei Sifle yn eglwys yr Iwerddon. Gwnaeth y dyn da hwn y fath wrhydri gyda dirwest fel yr adnabyddir ef yn y cysylltiad dan yr enw "Apostol Dirwest." Gwn- aeth hefyd gymaint o les trwy hyny i grefydd yr Arglwydd Iesu fel y galwyd, ac y gelwir ef gan lawer yn " Ail Patriclc." Anfonwyd Patrick i'r Iwerddon gan Coelestine, Esgob Rhufain, yn y bummed ganrif, fel y danfonwyd Bran ap Llŷr ac Awstin i Brydain i'w hefengyleiddio. Gwnaeth gymaint er troi y trigolion oddiwrth eu paganiaeth a'u hofergoeledd, fel yr ennillodd yr enwau Sant, Tad Eglwys yr Iwerddon, ac Apostol yr Iwerddon. Oddiar amser St. Patrick ni chododd neb mwy yn yr Ynys na Father Mathew. Mae yn syn meddwl nad oedd un o'r ddau ddiwygiwr yn frodor o'r Ynys. Yr oedd yr efengylydd cyntaf yn Ysgotiad, neu yn un o'r hen Frython- iaid. Ei enw oedd Succaethus, yr hwn a newidiwyd gan y Rhufeiniaid i Patricius, fel yr oeddynt yn newid enwau llawer o rai eraill. Mae sicr- wydd fod Father^Mathew yn Gymro o wa?d, ao o linach Gweithfoed Fawr, Brenin Ceredigion. Daeth yr enw Mathew gyntaf i'r llinach yn Syr Thoinas Mathew, yr hwn oedd fanerwr {standard-bearer) i Edward IV. Dy- wedir na ddaeth neb o'r tylwyth i gyfanneddu i'r Iwerddon hyd y flwydd- yn 1010. Wedi ymfudo yma daethant yn dirfeddianwyr cyfoethog. Cafodd un o honynt y teitl o Iarll Llandaf. Cymerodd un o'r ieirll hyny berthynas agos iddo yn arolygwr ei ystâd, sef James Mathews, yr hwn a briododd un Ann Whyte, a phedwerydd mab i'r rhai hyn oedd yr enwog Father Mathew. Ganwyd ef yn y palas yn Thomastown, Hydref 10, 1790; felly gwelir fod hon y ganfed flwyddyn oddi- ar ei enedigaeth. Yr oedd ei fam yn coleddu meddwl mawr am offeiriadaeth yr Eglwys, a'i huchelgais penaf oedd cael rhai o'i meibion i'r swydd. Dywedai gyda golwg ar hyn, " Onid yw yn anffortun- us iawn fod genyf naw o feibion, a dim un o honynt yn offeiriad ! " Ar y pryd daeth y mab Theobald ymlaen, a dy- wedodd gyda llais penderfynol, " Mam, peidiwch bod yn anesmwyth, âf fi yn offeiriad." Edrychodd pawb arno o hyny allan fel un cysegredig i'r Eg- lwys; cafodd ei addysgu i'r perwyl, ac ordeiniwyd ef yn y flwyddyn 1814. Cafodd wasanaethu yn gyntaf yn ei Sir ei hun, ac heb fod ymhell o'i gartref. Wedi hyny ymsefydlodd yn Cork, lle yr oedd pan ymgymerodd â gwaith mawr ei fywyd. 2 L