Skip to main content

Rhif. 721." X DEYSOEFA. TACHWEDD, 1890. [Llyfr LX. DIFYRION A CHWAREUYDDIAETHAU. GAN Y PAECH. WILLIAM WILLIAMS, ABEETAWE. A oes rhywun a ŵyr pa nifer sydd yn coleddu yr un syniadau am y pethau uchod heddyw ag a goleddent ugain mlynedd yn ol ? Pe gofynid y cwest- iwn i mi, byddai raid i mi ateb nad wyf yn gwybod ond am ychydig, ac ychydig iawn. Y mae dull y byd hwn yn myned heibio, ac mewn nid ych- ydig o bethau y mae dull yr Eglwys yn y byd yn myned heibio hefyd. Yn yr Eglwys y mae cyfnewidiad yn dilyn cyfnewidiad gyda chyflymdra aruthrol. Bu amser, a hwnw heb fod ymhell yn ol, pan nad oddefai, nid yn unig dysgyblaeth eglwysig, ond hefyd llais y wlad, i neb a broffesent dduw- ioldeb i ymyraeth â'r bêl droed, na'r bêl law, na croquet, na orichet, na bagatelle, na billiards, na quoits, na shittles, na chymeryd rhan mewn dawns, na myned i chwareudŷ. Bydd- ai ambell ddyn da, pan i fyny yn Llundain, yn ymweled unwaith â'r chwareudý er mwyn gwybod i ba beth yr oedd yn debyg, ond elai gyda gochelgarwch mawr. Tra yno, teimlai megys yn eistedd ar ddrain, ac ar ddiwedd y cyflawniad llithrai i'w lettỳ gan deimlo fel pe buasai wedi ei ddal o dan gangenau y pren gwahardded- ig. Ond bellach y mae hyn oll wedi newid. Y mae deddfau a fuont un- waith yn rhwymo yr holl frawdoliaeth gyda thyndra mawr wedi myned i fethu a rhwymo neb, mwy na phe byddent yn garth golosgedig. Yr wyf yn gobeithio bod y rhai ydynt yn pro- ffesu duwioldeb yn llawer gwell na'r rhai nad ydynt " yn nirgel ddyn y galon ; " ond yn yr hyn a welir, ac yn enwedigol gyda golwg ar ymddifyru a chwareu, y mae y gwahaniaeth wedi myned yn beth bychan iawn. Prin y gellir enwi lle o ddifyrwch nad oes rhai o honynt yn arfer myned iddo, na math o chwareuyddiaeth nad oes rhai o honynt hwy yn cymeryd eu rhan ynddo. Y mae llaweroedd o honynt wedi myned yn annheimladwy i rym y gwaharddiad, " Na chydymffurfiwch â'r byd hwn," ac wedi rhoddi heibio ddyfod allan o blith y rhai annuwiol ac ymddidoli. Y mae yn Nghylchlythyrau ein Cymdeithasfaoedd benderfyniadau yn gwahardd cyrddau tê, cyngherddau yn y capeli, a Bazaars, a phethau cy- ffelyb mewn cysylltiad âg achos Crist. Bernid y dylasai arian a gesglid at gynnorthwyo crefydd fod yn ffrwyth teimlad crefyddol, ac ofnid y byddai i lwybrau eraill i sicrhau yr adnoddau anghenrheidiol fagu ysbryd, ac arwain i ymddygiadau annheilwng o urddas efengyl Crist. Ond pa le y mae y penderfyniadau hyny yn awr? Nid oes neb yn meddwl am danynt mwy na phe buasent, fel crystyn pastai, wedi eu gwneuthur o bwrpas i'w tori. Os gellir casglu swm o arian, nid oes ond ychydig yn gofalu trwy ba lwybr- au. Canmolir " ffrwythlondeb yr Eg- lwys," er fod y "ffrwyth" wedi ei grynhot yn nghanol cymaint o grech- 2 H