Skip to main content

Y DEYSORPA. Rhif. 719.] MEDI, 1890. [Llyfr LX. PREGETH JUBILI Y GENADAETH DRAMOR. A draddodwyd yn Nghapel Holloioay, Llundain, Gorphenaf 6, 1890.) GAN Y PARCH. W. RYLE DAVIES, LLUNDAIN. Esaiah xl. 5: " A gogoniaut yr Arglwydd a ddadguddir, a phob cuawd yugbyd a'i gwel; oanys geuau yr Arglwydd a lefarodd hyn." Heddyw, mewn llawer, os nad yn y rhan fwyaf o'n capelau fel enwad, fe genir emynau cenadol, fe bregethir pregethau cenadol, ac fe ofîrymir gweddiau, mewn modd neillduol, ar ran ein Cenadaeth Dramor, oblegid heddyw ydyw y Sabbath a nodwyd gan y Gymanfa Gyfîredinol i fod yn Sabbath Jubili y Genadaeth Dra- mor. Ac y mae rhyw arwyddion eisoes, yn ein plith, fel Cyfundeb, ein bod megys yn sylweddoli fod yr Arglwydd yn dywedyd wrthyin, fel wrth yr hen genedl gynt, " Sancteiddiwch y ddeg- fed flwyddyn a deugain "—hon yw blwyddyn Jubili eich Cenadaeth Dra- mor. Y mae yn weddus iawn i ni, fel Cyfundeb, i gymeryd mantais ar yr achlysur presennol i fendithio Duw am ei arweiniad rhyfedd i ni, ei arn- ddifíyn mawr drosom, a'i fendith am- Iwg ar ein llafur cenadol o'i ddechreu- ad hyd yn awr; i gymeryd cysur oddiwrth lwyddiant amlwg y gor- phenol; ac i ymadnewyddu, addun- edu, ac ymroddi fwy fwy eto, yn y dyfodol, nag erioed, yn ngwasanaeth ein Duw, ynglŷn â'r Genadaeth Dra- mor. Nid oes dim yn fwy ainlwg oddiwrth gychwyniad ein gwaith cen- adol, fel a geir yn Nghofiant tra gwerthfawr y diweddar Barchedig Henry Rees, gan Dr. Owen Thomas, nag fod rhai o'n prif arweinwyr yn edrych, nid "yn dawel " ond mewn ammheuaeth, ar Fryniau Ehasia fel " Y bryniau tywyll niwliog," a'u bod yn dechreu y gwaith " trwy ofn a dychryn," ac, megys, " yn myn- ed allan heb wybod i ba le yr oeddynt yn myned." Ond, er iddynt hwy gychwyn trwy anialwch ansicrwydd a phryder mawr, fe'u cyfarwyddwyd, fe'u harnddinynwyd, ac fe'u harwein- iwyd i mewn i Ganaan o lwyddiant mawr, yn yr yspaid byr hwn, fel y gallwn ni, y flwyddyn hon, ganu yn galonog yn yr ystyr hon :— " Do, fe wawriodd Blwyddyn hyfryd Jubili." Y mae o'r pwys mwyaf fod holl aelod- au ein Cyfundeb yn cymeryd dyddor- deb ìnawr yn y gwaith Cenadol yn ei wahanol agweddau. Y mae yn bwysig iawn ein bod yn teimlo dyddordeb mawr yn ein Cen- adon a'u teuluoedd—ein hanwyl frod- yr a'n chwiorydd, ar y maes Cenadol, ac yn cymeryd mantais ar eu hym- weliadau â ni yn awr ac eilwaith, er ennyn a dwyshau ein teimladau da tuag atynt. Mantais anmhrisiadwy i'n Cenadaeth yn yr ystyron uchaf fyddai i aelodau ein Cyfundeb weled, 2 B