Skip to main content

X DEYSOEFA. Ehif. 716.] MEHEFIN, 1890. [Llyfr LX. BHODIASOM I DY DDUW YNGHYD. ADGOFION AM Y DIWEDDAR BARCH. DAVID DAVIES, ABERMAW. Gan t Pabch. R. H. MORGAN, M.A., Menai Bbidge. Mae mwy na thair blynedd wedi myned heibio bellach er pan gladd- wyd y diweddar Barchedig David Davies, o'r Abermaw, ac nid oes, hyd a welais, un cofnodiad coffadwriaeth- ol am dano wedi ymâdangos yn y Drysorfa. Ni cheisiaf, yn y llinellau dilynol, roddi hanes ei fywyd, ond fy amcan ydyw cyfleu ger bron y dar- llenydd fy adgofion personol am dano, a thynu darlun o hono fel y gwelwn ac yr adnabyddwn ef yn ystod deu- ddeng mlynedd olaf ei oes—darlun o Mr. Davies fel yr oedd, neu fel yr ymddangosai i un a fu yn cydfyw âg ef am hir amser, a'i gwelodd mewn Hawer amgylchiad a thymher, a dder- byniodd lawer iawn o wir garedig- rwydd oddiar ei law ymhob cylch, ac un sydd yn teimlo chwithdod a hir- aeth wrth feddwl na cheir eto weled ei wynebpryd na mwynhau ei gym- deithas ar y ddaear. Fy nghof cyntaf am Mr. Davies, o Benmachno y pryd hyny, ydyw ei wrando yn pregethu y noswaith olaf mewn cyfarfod a gynnaliwyd yn Nghwmnancol, cymydogaeth wrth droed y Moelfre, uwchlaw Dyffryn Ardudwy—nis gwn ymha flwyddyn. Cynnaliwyd yno gyfarfod pregethu cyn hwnw, hynod o lewyrchus, ar ddechreu haf, rhyw dro yn ystod blaenllanw y diwygiad mawr diwedd- af; yn hwnw cafodd y Parch. John Davies, Nerquis, odfa hynod rymus ar y geiriau, "Issachar sydd asyn es- gyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn," odfa a fu yn foddion tröedigaeth i liaws o'r gwrandawyr. Yn yr ail gyfarfod trôdd yr hin yn anffafriol erbyn yr hwyr, ac felly yr oedd preg- ethu, yn ol yr hen ddull, yn ffenestr y capel yn anmhosibl, fel y gwnaeth- pwyd y boreu a'r prydnawn. Yn y capel pregethai y Parch. Joseph Tho- mas a rhywun arall; ac yn Hendre- waelod—y ffermdŷ mwyaf gerllaw— llettý y fforddolion y pryd hwnw—yr oedd Mr. Davies yn pregethu, a'r bobl yn llenwi yr hen gegin fawr a'r siamber. Safai ar ben cadair, wrth ben y bwrdd, a bordgron o bren ffaw- yddgwjn wedi ei gosod ar ben y bwrdd i ddal y Bibl a'r llyfr hymnau. Nid wyf yn cofio dim am y testun na'r bregeth, ond fod y pregethwr yn cael hwylusdod rhyfedd, a'r gynnulleidfa yn mwynhau. Tybiwn na chlywswn erioed y fath bregethwr, yn meddu Uais mor anwyl, ac yn gallu ei drin mor fedrus: weithiau esgynai i'r uch- elder mewn tôn beraidd, nid bloedd aflafar, ac, wedi parhâu am enyd yn y cywair hwn, nes swyno pawb â'i beror- iaeth, disgynai i'r dyfnder a Uefarai mewn llais bass oedd yn llawn mor effeithiol yn ei ddylanwadau â'r llall. Yr oedd ganddo lais godidog; a phan fyddai annahariaeth ar hwnw, torai ei galon yn lân a gosodai ei dŷ mewn trefn. Eto camgymeriad dybryd