Skip to main content

X DEYSOEFA. Ehif. 715.] MAI, 1890. [Llyfr LX. TJEDDAS A DYLANWAD EIN CYFÜNDEB. GAN Y DIWEDDAR BARCH. JOHN PRICHARD, AMLWCH. (Yr Araeth a barotoisiä i'w thraddodi wrth roddi i fyny gadair lywyddol y Gymdeith- asfa; ac a ddarllenwyd yn Ngliymdeithasfa Rhosllànerchrugog, EbriÜ ÌOfed, 1890, gan y Parch, Daniel Éowlands, M.A., Bangor, Anwyl Frodyr,— Yr oedd y brawd oedd yn eich cyf- arch yn y Gyrndeithasfa gyntaf a gyn- naliwyd yn y flwyddyn ddiweddaf, wrth roddi y gadair i fyny i mi, yn gallu eich cyfarch yn " frodyr a thadau;" ond nis gallaf fi eich cyfarch yn dadau—na, dim ond brod- yr. Mae fy holl dadau wedi myned i orphwys oddiwrth eu llafur, a'u gweithredoedd yn eu canlyn hwynt; mae ein bod wedi eu colli o'n plith yn achosi i ni deimlo yn bruddglwyfus yn aml; ond gallaf finnau eich cyfarch yn frodyr anwyl. Dymunwn argraffu ar eich meddwl, ac ar fy meddwl fy hun hefyd, fod ein llwyddiant fel Cyfundeb o Grist- ionogron yn ymddibynu i raddau mawr ar fod brawdgarwch yn parhau yn ein plith. Cymhellai awdwr y llythyr at yr Hebreaid y rhinwedd hwn ar y rhai yr ysgrifenai atynt, gan ddywed- yd, " Parhaed brawdgarwch." Mae parhad brawdgarwch yn yr eglwysi yn anghenrheidiol er eu llwyddiant— brawdgarwch rhwng yr holl aelodau â'u gilydd, a rhwng yr eglwysi â'u swyddogion. Mae parhad brawdgar- wch yn y Cyfarfodydd Misol a'r Cymdeithasfaoedd yn anghenrheidiol er p.n llTOiT/l/íîo^t- r-A w,„~ ««.^^J anghenrheidiol er llwyddiant y Cyfun- deb. Mae teimlad da yr eglwysi tuag at y Cyfarfodydd Misol yn ymddibynu i raddau helaeth ar ymddygiad doeth y Cyfarfodydd Misol fel llysoedd uwch, tuag at yr eglwysi fel llysoedd îs. Doethineb y Cyfarfodydd Misol ydyw dangos pob parch i'r eglwysi—peidio ymyraeth yn ormodol â hawliau an- nibynol yr eglwysi; oblegid y mae gan eglwysi Methodistaidd eu hawliau annibynol yn gystal a'u hawliau hen- aduriaethol, a chredwn mai dyma y ; ffordd i sicrhau parch yr eglwysi | i'r Cyfarfodydd Misol. Peth pwysig ! iawn hefyd yw fod brawdgarwch yn I parhau yn y Cyfarfodydd Misol rhwng y gweinidogion a'r blaenoriaid; ac un ffordd i beri i'r brawdgarwch barhau fyddai i'r naill a'r llall beidio ymyr- aeth yn ormodol â dyledswyddau neillduol eu gilydd. Parhaed brawd- garwch rhwng y ddau ddosbarth o weinidogion y gwahanol Gyfarfodydd Misol—rhwng yr hen a'r ieuainc ; ac un fantais fawr i barhad brawdgarwch rhwng y ddau ddosbarth fyddai fod yr hen yn rhoddi pob cefnogaeth i'r ieuainc i ddyf od ymlaen—rhoddi digon o waith iddynt. Mae rhai gorchwyl- ion ag y mae bod dyn yn ieuanc yn