Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEPA. Rhif. 714.1 EBRILL, 1890. [Llyfr LX. PWYSIGRWYDD ATHRAWIAETH Y DRINDOD. GAN Y GOLYGTDD. Y mae y gwirionedd fod Duw yn bod yn Dri o Bersonau yn un a gredir yn ddiammheuol gan yr holl Eglwysi uniongred. Ac eto y mae lle i ofni mai prin y gellir galw y cydsyniad oer a difater a roddir i'r athrawiaeth hon gan liaws yn grediniaeth. Gallai fod y dirgelwch ofnadwy sydd yn amgylch- ynu y gwirionedd hwn yn peri i liaws o Gristionogion da ei adael heibio, fel peth nad oes ganddynt hwy ddim i'w wneyd âg ef ond ei dderbyn ar sail tystiolaeth yr Ysgrythyr fel erthygl yn eu credo. Addefant fod yr athraw- iaeth yn wir, a dyna y cwbl ar ben. Am fod y gwirionedd hwn (yn ngeir- iau rhagorol yr Hyfforddwr) yn "ddir- gelwch mawr i'w gredu ac nid i'w amgyffred," tybir nad oes eisien meddwl nemawr am dano, na theimlo dim neillduol yn ei gylch. Nid yw yn destyn myfyrdod. Nid yw yn ddefn- ydd mawl. Ni chlywir bron byth bregethu arno. Ni wneir un amser bron gyfeiriad ato mewn sylw na phrofiad yn y Cyfarfod Eglwysig, nac mewn ymddyddanion crefyddol. Tra y mae cariad Duw, gogoniant Crist, a digonolrwydd yr Iawn, wedi cynhyrfu Uawer enaid, fel y dylent wneyd, i orfoledd—buasid yn edrych ar y Cristion hwnw fel yn perthyn i ryw- ogaeth anghyffredin a fuasai yn cael ei godi i hwyl gorfoledd wrth fyfyrio ar athrawiaeth y Drindod. Ac nid yn unig, nid eJrychir arni hi ei hunan yn destyn gorfoledd, nid edrychir arni chwaith fel yn dwyn unrhyw berthyn- as neillduol â'r athrawiaethau sydd felly. Mewn gair, collir golwg bron yn gwbl gan liaws ar bwysigrwydd hanfodol yr athrawiaeth hon i holl gynllun iachawdwriaeth; ar ei sylfeini moesol a'i pherthynas ddofn â'r gyd- wybod; ac ar ei dylanwad, fel credin- iaeth fywiol ac ymarferol, ar holl fywyd y Cristion. Tra gwahanol i hyn oedd agwedd meddwl yr Eglwys Foreuol tuag at y gwirionedd hwn. Edrychent hwy arno fel sylfaen holl athrawiaethau yr Efengyl. Iddynt hwy, hwn oedd gwirionedd gwreiddiol Cristionogaeth, o'r hwn yr oedd ei holl wirioneddau neillduol yn tarddu. Ymddengys o'r amseroedd boreuaf, mai " cydnabydd- iaeth dirgelwch Duw " fel Tri o Ber- sonau oedd ammod anhebgorol der- byniad i'r Eglwys Gristionogol. Bed- yddid Cristionogion, yn ol yr hanesion boreuaf sydd ar gael, yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân. Yr oedd cydnabyddiaeth o'r Enw hwn yn cael edrych arno fel cyffes o swm a sylwedd gwirioneddau Cristionogaeth. Ac y mae yn amlwg i bob darllenydd di- duedd o'r Testament Newydd fod y gwirionedd hwn fel gwreiddyn i holl ddysgeidiaeth yr Apostolion. Dan- gosir hyn nid yn unig mewn adnodau uniongyrchol ar y mater, ond yn llawn cymaint, ac yn fwy, yn y modd y maent o hyd yn ei gymeryd yn ganiatäol. Pan wresogir eu calonau