Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEPA. Rhif. 713.J MAWRTH, 1890. [Llyfr LX. ATTAL Y FASNACH. GAN Y PARCH. DANIEL EOWLANDS, M.A. Y mae sobrwydd y genedl yn fater nad all unrhyw ddyn ystyriol lai na theimlo dwfn ddyddordeb ynddo, ac yn fynycb nid yw yn bosibl i neb o'r fath beidio pryderu yn fawr yn ei gylch. Wedi yr holl yrndrechion a wnaed yn ein gwlad o'i blaid, y mae ffeithiau alaethiis yn barhaus yn dyfod i'n sylw sydd yn dangos fod yr afael sydd gan hudoliaeth y ddiod feddwol ar ein cydwladwyr yn ofnadwy o gref, ac fod y difrod a achosir trwy hyny yn fawr iawn. Ac ofnwn mai ychydig ydyw ein hymdrech yn y dyddiau hyn yn erbyn anghymedroldeb. Yr oedd y deflröad Cymreig yn yr achos yma ar y dechreu yn rhywbeth ag y gallwn fel cenedl fod yn falch o hono. Tra mewn rhanau eraill o'r deyrnas y pregethid sobrwydd gan rai y tu allan i grefydd, ac y cymerid mantais yn fynych ar hyny i'w darostwng, fe ddaeth dynion sancteiddiaf Cymru allan, a bron fel un gŵr, i alw ar eu cydwladwyr i ffoi rhag y perygl yr oeddynt ynddo, gan bregethu Uwyr- ymwrthodiad â'r diodydd meddwol fel yr unig ymwared sicr oddiwrth eu melldith. Ac y mae yr effaith a adawodd hyny ar ein gwlad wedi bod yn ddaioni anmhrisiadwy. Y mae cydwybod Cymru wedi ei hennill o blaid achos ardderchog sobrwydd. Ond ynglỳn â hyn y mae perygl ag y mae lle i ofni nad ydym y dyddiau yma ond i fesur bychan yn fyw iddo : fe'n temtir i feddwl fod y frwydr wedi ei hymladd, a'r fuddugoliaeth wedi ei sicrhau; tra y mae pobl y tafarnau yn ei wneyd yn bwnc byiuoliaeth i gadw eu drysau yn agored ac i wneyd eu temtasiwn i'w cymydogion mor gref ag y mae yn bosibl; ie, a thra y mae ein cydwladwyr wrth y miloedd yn cael eu handwyo gan y diodydd a werthir ganddynt. Y mae yn fater o fawr lawenydd fod pobl grefyddol Lloegr erbyn hyn wedi deft'ro yn fawr, ac yn gweithio yn rhagorol gyda'r achos hwn. Y mae Dirwest yn cael lle amlwg yn eu prif gynnulliadau; ac nid ydyw yn ormod gan y gwýr enwoc- af a feddant, yn y pulpudau ac ar esgynloriau, ymdrechu â'u holl egui i gael gan eu cydwladwyr ymwrthod yn gwbl â'r diodydd ag y mae bellach wedi ei brofi mor eglur nad allant wneuthur iddynt unrhyw les, ond sydd yn barhaus, ac i'r fath niferi, yn profi yn gymaint trychineb. Na fydd- ed i ninnau yn Nghymru foddloni ar sefyll ac edrych, pan y mae cynifer o'n cymydogion trwy ddiota yn cael eu "llusgo i angeu." Ond yn ychwanegol at ein rhwymed- igaeth i wneyd ein rhan tuag at sicr- hau ein diogelwch ein hunain a diogel- wch ein cymydogion rhag y temtas- iynau mawrion a osodir yn ein ffordd gan y fasnach yn y diodydd meddwol, y mae y cwestiwn yn ymwthio fwyfwy i'n sylw, ac yn hawlio ein hystyriaeth fwyaf dwys,—A ddylai masnach mor beryglus gael ei goddef o fewn ein