Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEPÁ. Ehif. 712.J CHWEFEOE, 1890. [Llyfr LX. Y DIWYGWYE PEOTESTANAIDD A'E TADAU METHODISTAIDD. GAN Y PARCH. JOHN HUGHES, M.A., LIVERPOOL. Predigt am Reformationsfest, 1889, in der Thomaskirche zu Leipzig. Dr. Theol. D. 0. Pank. Pank ydyw y pregethwr mwyaf pobl- ogaidd yn Leipzig. Y mae yn ẃr dysgedig, wedi bod mewn cysylltiad teuluaidd â Bismark fel athrawi'w feib- ion; a symudwyd ef o Berlin i'r ddinas hon, i'r safle uchaf sydd yn perthyn i'r Eglwys Lutheraidd. Da oedd gen- ym gael cyfle, gan hyny, i'w wrando ar adeg mor ddyddorol a gŵyl flynyddol y Diwygiad Protestanaidd, yr hon a gedwir gyda mawr afiaeth yn y ddinas hon diwedd mis Hydref. Aethom yno yn brydlawn, ond nid digon prydlawn i gael lle i eistedd. Er fod y gwasan- aeth yn dechreu am naw o'r gloch y bore, yr oedd eglwys St. Thomas yn orlawn yn hir cyn hyny, a llìaws pobl yn dwyn gyda hwy eu cadeiriau, fel y claf o'r parlys yn cludo ei wely, er mwyn bod mewn ffordd esmwyth i wrando. Bu ychydig o wasanaeth rhagarweiniol, nid llawer, ond mwy nag arfer; canys y mae y pregethwr yma yn dechreu y gwasanaeth gyda'r bregeth, ac yn darllen y gweddîau ar derfyn y gwasanaeth. Yn fuan ym- ddengys Pank yn y pulpud a darllena ei destyn, a chyfyd yr holl gynnulleidfa fawr ar ei thraed. Eisteddant i ganu, eisteddant wrth weddio, ond pan ddar- llenir yr Ysgrythyrau cyfodant yn ddi- eithriad ar eu traed. Golygfa ddy- munol a pharchus dros ben, er nad ydym yn gweled un rheswm dros eis- tedd pan yn canu mawl a gweddio. Y mae rhai pethau yn y gwasanaeth ag y dymunem weled mwy o honynt ymysg y Cymry, ond yn eu dull o ganu mawl gwell ydyw y dull Cym- reig. Ond darllena y pregethwr ei destyn yn bwyllog ac yn hyglyw i bawb. Nid oes gan yr Ellmyn yr un sêt fawr, ac felly nid ydyw y pregeth- wr mewn perygl o feddwl mai braint y sêt fawr yn unig ydyw cael y tes- tyn, yr hyn, ysywaeth, sydd yn rhy gyffredin yn Nghymru gyda meistr- iaid y gynnulleidfa. Y mae rhai preg- ethwyr ieuainc yn Nghymru wedi myned i feddwl mai un o nodwedd- ion pregethwr mawr ydyw sibrwd y testyn wrth ddechreu a'i floeddio wrth derfynu; a gwelir hwynt yn darllen y testyn i bob golwg, nid er mwyn iddo gyrhaedd clustiau y gwrandawyr, ond yn hytrach er mwyn iddo ddychwelyd i'w mynwes eu hunain. Nid naturiol hyn, ac y mae y Cymry yn cael cam yn hyn o beth. Nid felly Pank. Gwelwch ef yn sefyll yn syth a darllena ei destyn gyda llais eglur a chlywadwy, ac nid oedd odid i un yn y gynnulleidfa fawr a fethodd ei gael. Nid oes anghen clustfeinio : darllenwyd ef unwaith, ac y mae hyny yn ddigon, canys y mae wedi treiddio trwy yr holl adeilad. Matthew xxi. 12—21. Y mae gan y pregethwr lais da ac agwedd ddymun- ol, a'i holl ystumiau yn cyd-daraw yn