Skip to main content

Y DEYSOEPA. Bhif. 711.1 IONAWE, 1890. [Llyfr LX. ADDEWIDION DUW YN NGHEIST. GAN Y PARCH. HUGH JONES, LIYERPOOL. 2 Corinthiaid i. 20: " Oblegid holl addewiâion Duw ynddo ef ydynt i'e, ac ynddo ef Ameu, er gogoniant i Dduw trwom ni." Y mae y gwirionedd gwerthfawr sydd yn yr adnod hon wedi dy- feru oddiwrth yr Apostol Paul, yn ei waith yn ei anaddiffyn ei hun yn wyneb amcan rhywrai i iselu ei gymeriad yn ngolwg yr eglwys yn Corinth. Yr achlysur a gymerodd y dynion hyn i ymosod arno ydoedd, iddo ballu ymweled â'r eglwys ar ei ffordd i Macedonia, fel yr ydoedd wedi bwr- iadu, ac wedi rhoddi ar ddeall iddynt hwythau y gwnelai. Y mae yr Apos- tol yn cydnabod y bwriad hwn yn y bennod hon: "Megys y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu. Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn ewyll- ysio dyfod atoch o'r blaen, fel y caff- ech ail ras; " hyny yw, trwy ddau ymweliad â hwynt yn agos i'w gilydd. Y gras cyntaf oedd ei ymweliad â hwynt ar ei ffordd i Macedonia; yr ail ras ydoedd ei ymweliad â hwynt, drachefn, ar ei ddychweliad o Maced- onia: megys y mae yn dywedyd yma, " A myned heb eich 11 aw chwi i Macedonia [galw wrth fyned heibio], a dyfod drachefn o Macedonia atoch, a chael fy hebrwng genych i Judea." Ond yr ydoedd wedi newid ei drefn- iadau, ac, yn wir, wedi gwneyd hyny yn hysbys yn niwedd ei lythyr cyntaf atynt, pen. xvi. 5—7. Ymddengys fod gwrthwynebwyr yr Apostol yn Corinth yn cymeryd mantais oddi- wrth y cyfnewidiad hwn yn ei daith i geisio darostwng ei gymeriad, trwy ei osod allan fel un ysgafn, anwadal, di- ymddiried. Y mae yntau yn ym- wrthod yn hollol â'r cyhuddiad. " Gan hyny, pan oeddwn yn bwriadu hyn a arferais I ysgamder, neu, y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ol y cnawd yr wyf yn bwriadu, fel y byddai gyda mi, ie, xe, nage, nage ? " ' Ai ymgyng- hori â'm boddhad, a'm cyfleusdra, a'm hamcanion hunanol yr ydwyf, fel nad yw yn ddim genyf newid fy mwriad- au a thori fy addewidion, ac nad yw yr hyn a ddywedwyf i ddibynu arno ? ' Y mae yr Apostol yma fel yn gwneyd apêl at yr adnabyddiaeth a feddai y Corinthiaid o hono. Ac y mae cym- eriad trwyadl, ynddo ei hun, yn fesur mawr o ddyogelwch i ddyn rhag der- byn niwed oddiwrth dafod yr enllib- iwr. Y mae efe yn gadael i'w cyd- wybod hwy ateb y gofyniad; ac nid oedd ammheuaeth ganddo na buasai yr ateb yn troi yn ffafriol iddo. Fel amddiffyniad iddo ei hun, y mae efe ymhellach yn cyfeirio at nodwedd ei weinidogaeth yn Corinth, ac at ddi- anwadalwch cymeriad Gwrthddrych mawr ei weinidogaeth : " Eithr ffydd- lawn yw üuw, a'n hymadrodd ni wrthych chwi ni bu ie, a nage." Can wired a bod Duw yn ffyddlawn, yr ydym ninnau wedi bod yn ffydd-