Skip to main content

X DEYSOEFA. Ehif. 710.] EHAGFYE, 1889. [Llyfr LIX. NAOMI A'I THEÜLU. GAN Y PARCH. J. H. SYMOND, TOWYN MEIRIONYDD. Cawn ddau o lyfrau y Bibl—a diru ond dau—o dan enwau merched : sef llyfr Euth a llyfr Esther. Ac yn llyfr Euth y ceir hanes Naomi a'i theulu, oedd yn rhai o genedl Israel; ac hefyd hanes Euth ei hun, yr hon a ddaeth i rnewn i'r teulu o blith y Cenedloedd. Y mae llyfr Euth yn llawn iawn o addysg a chysur, yn enwedig i bobl sydd yn cael eu hunain yn nghanol siomedigaethau a cholledion. Prudd- aidd a gofìdus iawn ydyw yr hanes yn y dechreu, ond yn troi allan ymhen amser i fod yn hynod lewyrchus a dedwydd. Dysgir i ni yn yr hanes fod yr Ar- glwydd yn goruwchreoli achosion rhai isel ac anghyhoedd yr un mor ofalus ag y mae yn llywodraethu amgylch- iadau y mawrion, a dygwyddiadau teyrnasoedd. Ac o dan y fath lywodr- aeth fanwl, yr ydym yn gweled yn yr hanes fod anghof o'r Llywodraethwr mawr a'i drefniadau yn rhwym o ar- wain i siomedigaeth a chwerwder. Ni waeth yn y byd pwy fyddo y per- sonau, na pha radd y byddo eu sefyll- fa, os byddant wedi gollwng Duw tros gof, a'u cerddediad wedi myned allan o'i lwybr Ef, y mae hyny yn rhwym o gael ei chwerwi iddynt yn fuan neu yn hwyr. " Os anghofiasom enw ein Duw ni, neu estyn ein dwylaw at dduw dyeithr : oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr dirgeloedd y galon" (Psalm xliv. 20, 21). Ond dysgir i ni hefyd yn yr hanes pa fodd i fuddio yn briodol ar drallod- ion bywyd. Gwelir fod y rhai sydd yn cymeryd mantais ar helbulon i ddyweyd, " Deuwch a dychwelwn at yr Arglwydd: canys efe a'n dryll- iodd, ac efe a'n hiachâ ni; efe a darawodd, ac efe a'n meddyginiaetha ni " (Hosea vi. 1)—fod y rhai sydd yn troi o ddifrif at yr Arglwydd yn nghan- ol eu hadfeilion, yn cael eu hadeiladu drachefn yn rhyfedd a gwych iawn gan y bendigedig a'r unig Benaeth. Wedi y dryllio a'r chwalu mawr fu ar y teulu yn y wlad bell, yr ydym yn gweled dwy wraig weddw ddiblant, ddiamddiffyn, ddifoddion, ddigartref, yn cael er hyny o dipyn i beth bob 1 dim oedd yn llesol iddynt. A hyny i trwy nesu at yr Arglwydd a dyfod i obeithio dan adenydd Duw Israel, a dilyn ei arweiniad a'i gyfarwyddiadau. Byth ar ol eu hadferiad, ni cheir dim yn eu hymddygiadau oedd yn anghyd- weddol âg ofn yr Arglwydd a pharch i'w orchymynion. Er y gall rhai dybied, oddiar safle moes-ddefodoesaudiweddarach,fodyn y ddwy ddiffyg gofal priodol am ddi- weirdeb pur wedi eu dyfodiad i wlad Israel; ond dylid cofio fod llawer o wahaniaeth rhwng arferion yr oes foreu hono ac arferion cymdeithas erbyn hyn. Yr oedd gan y weddw yn Israel hawl i ran cyfathrachwr. Ac nid oeddynt hwythau ill dwy ond ym- gyrhaedd mewn dull dirgelaidd am un i gydymffurfio â hwynt i gario allan osodiad o eiddo Duw i'w bobl Israel. üywed un, " Nid oes dim gwyrthiau 2 L