Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEPA. Rhif. 707.J MEDI, 1889. [Llyfr LIX. LLWYDDIANT TEYRNAS MAB Y BRENIN. GAN Y PARCH. JOHN JONES, F.R.G.S., BETHESDA. SALM LXXn. Mae y Salm hon yn rhoddi darluniad o lwyddiant teyrnasiad Mab y Brenin. j Nid Soloinon sydd yma, ond y Mes- siah: " Wele un mwy na Solomon yma." Dyna fydd y mater :— Llwyddiant Teyrnas Mab y Bren- I in, yr Hwn yw Crist. A gobeithio y | byddwn yn dymuno hyny, ac yn cyd- uno âg iaith y Salm, gan ddywedyd, j " Amen, ac Amen." I. Ei llwyddiant daearyddol. Dywedir yma y bydd " ei lywodr- aeth o fôr i fôr, ac o'r afon hyd der- fynau y ddaear." Desgrifiad bardd- onol ydyw hyn, ac yn golygu y bydd eangder y deyrnas yn cyrhaedd hyd derfynau y ddaear. Ac y mae Crist- ionogaeth i gael mantais ar bob dar- ganfyddiad a wneir mewn daearydd- iaeth, ac ar bob ychwanegiad at fap y ddaear. Ar ol i'r Archwiliwr—yr explorer—dreiddio i ganol y cyfandir anhysbys, a rhoddi ei linyn arno, rhoddi enw arno, planu ei faner arno, a'i feddiannu yn enw ei frenin—y mae cenad hedd Mab y Brenin yn myned ar ei ol, ac yn ol ei gomis- iwn yn planu ei faner wèn arno, ac yn ei feddiannu i Frenin Sion. Yn ddiweddar dywedai un areithiwr mewn dull barddonol, fod meddian- nau a milwyr Prydain yn britho yr holl ddaear, fod sŵn ei drum hi yn dilyn cŵrs yr haul, a bod ei halawon hi yn diaspedain o glogwyn i glog- wyn, ac o begwn i begwn. Mae hyny i fod yn wir, ac yn brophwydoliaeth a gyflawnir, yn hanes teyrnas y. Salm hon, pan y bydd ei gorsafau a'i mil- wyr hi yn britho wyneb y ddaear, sŵn ei drum hi yn myned allan o'r dwyrain hyd y gorllewin, a'i halawon yn diaspedain drwy holl ororau daear faith. Ei maes hi ydyw y byd. Gwel- soch y darlun o Atlas a'r glôb ar ei gefn, ond Crist sydd i feddiannu y byd ; Mab y Brenin fedr gario'r glôb ar ei ysgwydd. Bydd pob modfedd o dir ar fap y ddaear yn eiddo iddo yn y man. II. Llwyddiant y deymas yn rhif- I YDDOL. Mae y llwyddiant daearyddol yn blaenori y rhifyddol, ac y mae yn bosibl cael y naill heb y Ilall. Mae ■ yn bosibl fod y wlad yn ei thiriogaeth I wedi ei meddiannu, ond eto y trigol- : ion heb eu hennill; y faner yn chwyfio | ar y clogwyn, ond y preswylwyr heb ymostwng iddi. Ond y mae llwydd- ; iant y deyrnas hon mewn rhif yn sicr, ' pan y daw holl drigolion y byd yn ddeiliaid teyrngarol i Fab y Brenin; fesur un ac un, hwyrach, ond eto deuant oll yn y man. Felly y mae dynion yn marw fesur un ac un, ond eto yn sicr o fyned oll; ac felly y mae dynion yn cael eu hennill i'r deyrnas fesur un ar ol un, ac fe geir yr olaf yn y man. 2 b