Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEFA. Rhif. 706.] AWST, 1889. [Llífr LIX. SYLWADAü AR WEDDI YR ARGLWYDD. G-AN Y PAECH. JOHN PEICHAED, BIEMINGHAM. Gweddi yr Arglwydd yw yr ail bennod ar bymtheg o'r Efengyl yn ol Ioan, yr hon a elwir felly gyda mwy o briodoldeb na'r cynllun o weddi a roddes efe i'w ddysgyblion. Nis gallai yr Arglwydd ei Hun weddio hono ; ac nis gallai ond yr Arglwydd Ei Hun weddio hon, er ei bod yn gyfoethog o ddefnydd gweddiau i bawb a gredant ynddo Ef. Os priodol meddwl fod un rhan o'r Ysgrythyr yn fwy dwyfol na rhan arall, y weddi hon, yn sicr, yw y rhan fwyaf dwyfol. Y mae yr Efengylwyr yn cyfeirio at y Gwaredwr yn gweddio mewn saith neu wyth o amgylchiadau eraill, ac mewn un o honynt fe geir o leiaf rai o eiriau ei weddi. Yn yr amgylchiadau hyny y mae ei Dduwdod bron yn hollol gudd- iedig. Yn y weddi hon, o'r ochr arall, nid oes o'r bron ddim ond Ei Dduwdod yn weledig. Nid cardotyn sydd yma ger bron yr orsedd, ond Mab ger bron gorseddfainc Ei Dad yn dadleu ei deilyngdod, ac yn mynegi ei ewyllys. Y mae y tawelwch mawreddog sydd yn nodweddu y weddi trwyddi, yn enwedig wrth ystyried sefyllfa ofn- adwy y gweddiwr ar y pryd, yn gwneyd i Dduwdod yn amlwg. Nid oes yma yr arwydd Ueiaf o gyfyngder—dim cryndod petrusgar mewn un ymad- rodd, dim ocheneidiau dolefus, dim brawddegau toredig gan ing, dim—ond pob peth yn deilwng o hono Ef fel yr ydym yn ei adnabod yn Berson Dwyf- ol mewn cyflwr o ymddarostyngiad. Cymharwoh y weddi hon â'r weddi yn ngardd Gethsemane—ac nid oedd ond cwpl o oriau rhyngddynt, os oedd cymaint. Y mae y gwahaniaeth rhyngddynt mor fawr fel nad oes ond Person y Duw-ddyn a'u cysona. Yn yr ardd y mae Efe yn yr ing dyfnaf ; yma y mae Efe yn y tangnefedd llawn- af. Yn yr ardd y niae Efe bron cael ei lethu gan y rhagolwg ar ei ddyoddef- iadau ; yma, er fod y groes yn y golwg o'i flaen, y mae Efe megys pe yn sefyll y tu draw iddi: gogoniant yw y cwbl ganddo. Yn yr ardd, y mae y dwyfol yn ymguddio yn y dynol; yma, y mae y dynol yn guddiedig gan ogoniant dwyfol. Rhaid fod yr Hwn oedd yn gweddio yn yr ardd yn ber- ffaith ddyn. Rhaid fod yr Hwn a weddiodd yr ail ar bymtheg o Ioan yn berfFaith Dduw. Yr ydym yn teimìo ein bod yn y weddi hon yn gwrando dirgelion dystaw cyfrinach y Drindod. Y mae dynion yn cael eu cynnwys ynddi; ond nid dyn yw y gweddiwr. Y mae Efe o'r dechreu i'r diwedd yn gosod ei Hun gyda'r Tad ar gyfer dynion. " Ni" a "hwythau." Duw sydd yma yn gweddio rhyngddo ag Ef ei Hun; neu, yr hyn sydd yr un peth, Duw—y Mab—yn gweddio, a Duw—y Tad—yn gwrando. Nid yw hyn yn amddifadu y weddi o deimlad- au dynol y Gwaredwr; yn hytrach, y mae teimladau ei ddynoliaeth ber- ffaith yma yn eu dwysder mwyaf; ond y maent yma wedi eu cyd-dym- heru â'i deimladau dwyfol ac yn dyfod yn arohiadau ei ewyllys ddwyfol.