Skip to main content

Y DEYSOEPA. Rhif. 705.'] GORPHENAF, 1889. [Llyfr LIX. ANERCHIAD YMADAWOL.* (Wrth roädi ifyny y Oadair yn Nghymdeithasfa ddiweddar Porthaethwy.) GAN Y PAECH. W. JAMES, B.A., MANCHESTEE. Anwyl Frodyr a Thadaü:—" Gwell yw diweddiad peth na'i ddechreuad," ebe'r Pregethwr; ac oni b'ai am yr anerchiad ymadawol ynglŷn â hi, yn debyg, mae yn ddiau, y dy wedai llawer un am lywyddiaeth y Gymdeithasfa am flwyddyn hefyd. O'r hyn lleiaf, felly y dywedai yr un sydd yn awr yn ymneillduo o'r swydd, a'r hwn y mae y ddefod arferol wrth wneyd hyny, yn ei olwg, yn benyd llawn ddigonol am ba bechodau bynag a allai un fod wedi eu cyflawni yn ystod ei dymmor. Tua blwyddyn i'r adeg hon yr oeddym yn gynnulledig mewn tref yn Nhrefaldwyn Uchaf. Ni fyddai yn beth o'i le i mi gyfeirio at yr amgylch- iadau o dan ba rai y bu yn rhaid i mi fyned yno, ond yn unig er mwyn talu diolch cynhes i'r Gymdeithasfa am ei chydymdeimlad â mi ar y pryd, a'i charedigrwydd tuag ataf o hyny hyd yn awr; ac hefyd er mwyn datgan y gofid dwys yr ydym bawb yn ei deimlo am nad yw y parchedig dad, yr hwn, mewn geiriau mor hynaws, a amlygodd deimlad y cyfarfod yn Machynlleth, ddim gyda ni heddyw, ac na chawn weled ei wyneb ef mwy. Mae yn chwith meddwl, yn wir, fod tafod yr hybarch a'r poblogaidd Joseph Thomas, yr hwn a swynodd gymaint ar Gymru * Parotowyd i'r Dbtsobpa, gyda rhai cyf- newidiadau yn y geiriad, gan yr Awdwr. am gynifer o flynyddoedd, yn y cyf- amser wedi dystewi, ie, dystewi yn yr angeu; a'i fod ef ei hun, yr hwn y bu yn dda genym mor aml ei anrhydeddu â'r lleoedd uchaf yn ein Cymdeithasfa- oedd, erbyn hyn wedi ei symud "i gymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntaf- aaedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd; " yno i fod mwyach " fel seren byth ac yn dragywydd:" canys efe a " drodd lawer i gyfiawnder:" yr hyn iddo ef, yn wir, sydd yn newidiad er gwell o lawer iawn, ond i'r Gym- deithasfa hon, a'r Cyfundeb a'r wlad oll, sydd yn achos o alar dwys ac o golled fawr. "Wrth roi i fyny y gadair heddyw, mae yn dda genyf allu dyweyd nad oes un gronyn o ofid yn codi ynof ar gyfrif dim anhyfryd a gymerodd le rhyngof a neb o'r aelodau, tra fum yn eistedd ynddi. Tra yn gorfod arfer hyny o lywyddiaeth oedd yn anghenrheidiol, yr wyf yn gobeithio ac yn credu i mi, o drugaredd, ddianc rhag rhoddi clwyf i'r un o'm brodyr. Y sail sydd genyf i gredu hyny yw, na roddodd neb o honynt hwy yr un clwyf i mi; ac yr ydys yn cael yn gyflredin lle y dy- gwyddodd y naill, fod y llall wedi dygwydd hefyd. Yr oedd un peth, ac nid oedd ond un, ag yr oeddwn yn fwy awyddus i'w wneyd nag hyd yn nod peidio rhoddi tramgwydd i frawd, neu rwystr; a.