Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DETSOEPA. Rhif. 703.J MAI, 1889. [Llyfr LIX. Y DUWIOL YN EI GYMERIAD AC YN EI DDIWEDD. Pregeth Angladdol a draddodwyd yn Nghapel Liscard Boad, Seacombe, Ionawr 27, 1889, ar yr achlysur o farwolaeth y diweddar Mr. David Jones. GAN Y PARCH. JOHN HUGHES, D.D. (WEDI EI CHOFNODI GAN ME. JOHN GRIFFITH, EGREMONT.) Psalm xxxvn. 37: " Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnw fydd tangnefedd." Y mae y Salmydd yn cyflwyno ger ein bron, yn y Salm hon, ddau o ddarlun- iau, gan osod y naill ar gyfer y llall: un yn ddarlun o'r annuwiol, a'r llall yn ddarlun o'r duwiol. Yr olwg gyntaf ar y naill ydyw yr olwg oreu. Wrth sylwi yn ddyfal arno a pharhau i graffu, y mae yn gwaethygu yn ddir- fawr, ac o'r diwedd yn diflanu o'n golwg. Y mae y llall, i'r gwrthwyneb, yn gwella wrth edrych arno: goreu yn y byd ydyw po fwyaf yr edrychir arno, a pho graffaf y sylwir arno; oblegid wrth sylwi yn graff arno, y mae ei ragoriaethau^amlwg yn ym- ddangos yn fwy prydferth, ac y mae ei nodweddion llai amlwg—ei ragor- iaethau llednais a chuddiedig, yn dyfod i'r golwg. Y darlun a ddyry yr awdwr o'r annuwiol, fy nghyfeillion, ydyw hwn : " Gwelais yr annuwiol yn gad- arn, ac yn frigog fel y lawryf gwyrdd," neu, yn ol y darlleniad ar ymyl y ddalen : " Gwelais ef yn gadarn ac yn frigog fel pren gwyrddlas yn tyfu yn ei ddaear ei hun; " nid fel pren wedi ei drawsblanu i ddaear anghymhwys, ond fel pren yn y ddaear briodol i'w ansawdd ei hun. Mae ei olwg yn fawrwych, a'i honiadau yn uchel, ei I fôst yn feiddgar, a'i ymddangosiad yn rhwysgfawr: mae yn dy wedyd yn ei lwyddiant, " Byddaf farw yn fy nyth ; a byddaf mor aml fy nyddiau a'r tywod." Ië, weithiau fe ddywed, " Ni'm syflir yn dragywydd." Mae felly "yn gadarn ac yn frigog fel y lawryf gwyrdd." Ond y mae y Salm- ydd, wedi cael yr olwg yna arno, yn troi ei ben am enyd ac yn edrych oddiwrtho. Ac yna y mae yn edrych eilwaith am dano ac yn methu ei gael: mae yr ymddangosiad mawr- eddus wedi diflaDu—mae y lawryf gwyrdd wedi gwywo: " efe a aeth ym- aith," ebe ef, " ac wele, nid oedd mwy o hono : mi a'i ceisiais, ac nid oedd Mae "enw y drygionus " yn pydru, a buan y mae yn cael ei anghofio gan bawb; nid oes adgof tyner am dano yn aros mewn un fynwes: " efe a aeth ymaith . . . . ao nid oedd i'w gael." Ar gyfer y darlun hwn, wele ddar- lun arall: " Ystyr y perffaith, ac ed- rych ar yr uniawn, canys diwedd y gẁr hwnw fydd tangnefedd." ' Ystyr y perffaith; sylla arno; edrych yn fanwl ac yn ddyfal arno;' oblegid ni ddaw ei ragoriaethau lleduais i'r golwg