Skip to main content

X DETSOEFA. Ehif. 702.] EBEILL, 1889. [Llyfr LIX. YE AEF-LYNGES YSPAENAIDD YN 1588 YN EI PHEETHYNAS A PHEOTESTANIAETH Y DEYENAS HON. GAN Y PARCH. W. R. JONES (Goleufryn), CAERGYBI. (mewn dwy bennod.) PENNOD I. Ar y 29ain o fis Tachwedd, dri chan rnlynedd i'r diweddaf, elai y frenines Elisabeth, yn marchog gyda rhwysg a mawredd mewn cerbyd a dynid gan bedwar o feirch gwynion, i Eglwys Sant Paul yn Llundain ; ac yr oedd llawenydd mawr drwy y ddinas a thrwy y deyrnas oll. 0 flaen yr eglwys cyhwfenid un ar ddeg o fan- erau, a ddygasid oddiar yr Yspaeniaid; ac wedi pregeth o'r pulpud careg, o dan groes St. Paul, lle y byddai Latimer a Eidley yn arfer pregethu, cyfodai y frenines i anerch ei deiliaid, ac i'w hannog i gydnabod y Llaw Drugarog ydoedd wedi gwasgar eu caseion, amddiöyn ei gorsedd hithau, a dyogelu eu rhyddid a'u bywydau hwythau. Dydd diolch ydoedd am waredigaeth y wlad rhag ymosodiad yr Arf-lynges Yspaenaidd, a gyfenwid yr Arf-lynges Anorchfygadwy (The Invincible Armada). Yr oedd llawen- ydd cyffelyb drwy holl wledydd Pro- testanaidd y Cyfandir. Yr yr Isel- diroedd bathwyd dernyn newydd o arian er cof am y fuddugoliaeth, gyda darlun o'r llynges ar un tu iddo, a'r geiriau, " I Dduw y byddo y go- goniant," ar y tu arall; a'r geiriau awgrymiadol canlynol yn argraffedig o amgylch yr ymylon, " Hi a ddaeth, a aeth, ac a fu, a.d. 1588." Yn Genefa dathlodd Theodore Beza, yr esboniwr enwog, yr amgylchiad, drwy gyfan- soddi yn Lladin emyn ardderchog, gyfaddas i'r achlysur. Ac onid oedd achos ? Un o'r ar- wyddion mwyaf o wendid ein Protes- taniaoth ydyw ein bod yn anghofio ei dyddiau mawrion. Gresynwn ddar- fod i'r flwyddyn ddiweddaf fyned heibio heb i'r frwydr fawr, dri chan mlynedd yn ol, gael nemawr o sylw. Hyd ag y gwyddom ní, nid ysgrifen- wyd ond ychydig am dani, a hyny yn y cyfnodolion hyny sydd, bob amser, yn cyfodi eu llef yn erbyn Pabydd- iaeth, eithr yn gwneyd hyny fel pe cyfodai un " ei fwyell rnewn dyrys- goed." Pa le y mae ein beirdd a'n llenorion? Ofnwn fod ein gwlad yn hepian gyda golwg ar allu y Babaeth. Cyfleusdra ardderchog fuasai y flwydd- yn o'r blaen i anhuddo ein brwdfryd- edd Protestanaidd. Gwelsom un yn ysgrifenu, gydag anffaeledigrwydd oracl, nad ydoedd perthynas yn y byd rhwng yr Armada â Phrotestaniaeth; nad oedd a fynai crefydd â'r amgylch- iad o gwbl! Hwyrach mai perygl ein haneswyr, fel ein gwyddonwyr, yn awr ydyw gwthio eu darganfyddiadau yn rhy bell, a cheisio gosod eu dam- caniaethau hoff eu hunain yn lle ffeithiau. Fe allai mai y peth nesaf ddywedir wrthym fydd, nad ydoedd y Diwygiad Protestanaidd ei hunan