Skip to main content

Y DEYSOEFA. Rhif. 700.J CHWEFROR, 1889. [Llyfr LÎX. HANES ADNODAU. GAN Y PAECH. OWEN M. EDWAEDS, B.A., EHYDYCHEN. I. "I'th law y gorchymynnaf fy ysbryd." Y mae i adnodau eu hanes. Bu rhai, fel milwyr, ar faes brwydr yn nerthu'r dewrion ; bu rhai ereill, fel chwiorydd trugaredd, yn cysuro carcharorion mewn daeargelloedd; bu llawer adnod yn hofran fel angel uwchben gwely marw sant neu b.echadur; bu un arall yn arwyddair gwrthryfel ya erbyn gor- thrymwr neu yn erbyn Duw. Y mae hanes ambell i adnod yn gyffrous, a'i hymddangosiadau'n annysgwyliadwy; ehed o faes brwydr i'r pulpud, o'r wledd i ystafell angeu; parddua ei hadenydd drwy chware ar wefus yr annuwiol, ac ymhoewa drachefn mewn purdeb a thlysni fel negesydd rhyw enaid pur at ei Dduw. Y mae hanes adnod arall, yn aml, yn dawel dawel; yr un cwmni mae'n gadw, gwyddoin ym mha le i chwilio am dani. Adnod felly ydyw adnod gwely marw,—" I'th law y gorchymynnaf fy ysbryd." Nid fel adnod gwely marw y cych- wynnodd hon ei gyrfa. Dafydd a'i dywedodd gyntaf, pan oedd gyfyng arno, ei nerth wedi pallu o herwydd ei anwiredd, ac yntau'n warthrudd ymysg ei elynion. Ar Galfaria y clywn hi nesaf. Prin yr adnabyddwn hi yno, gan y cyfnew- idiad ddaeth drosti. Torrodd goleu newydd ar y byd yn awr y marw rhyfedd hwnnw, a thrawsffurfiwyd yr adnod yn ei wydd. Daeth ei haden- ydd yn wynach, ei chalon yn burach; ac adnod yr Iesu'n madde, nid adnod Dafydd yn melldithio, a fu byth mwy. Swn ofn marw sydd ynddi ar wefusau Dafydd, ofn ei anghofio fel un marw allan o olwg. Ond ar Galfaria, try'r adnod yn air croesaw i Angeu,—angeu digolyn un yn gorffwys wedi gwneyd y gwaith mwyaf erioed. Dianc rhag ei elynjon yr oeddDafydd wrth orchy- myn ei ysbryd i'r Arglwydd Dduw, gweddio am ei wared o'u llid hwy yr oedd; ymadael at ei Dad yr oedd yr Iesu, wedi achub ei elynion ef. Teiíl cymdeithion yr adnod oleu rhyfedd ar newidiad ei chymeriad. Ei chydym- aith yn amser ffò Dafydd oedd hon,— " Gwaradwydder yr anuwiolion, torrer hwynt i'r bedd." Ond y mae ganddi gydymaith newydd ar Galfaria,—" O Dad, maddeu iddynt." Ac yn ei chwmni newydd yr ymhyfryda'r adnod byth, wrth esgyn ger bron Duw oddiar bob gwefus yn awr. Ni chaf ddilyn yr adnod yn holl hyd ei hanes. Llwybr rhyfedd fu iddi,— trwy ddaeargelloedd, trwy dân mer- thyrdod, trwy ffauau llewod, trwy feusydd brwydr, trwy garteefleoedd tawel. Ni chaf ond cymeryd golygfa yma ac acw, i ddangos pa oleuni deifl yr adnod oddiar ei haden wrth grwydro drwy hanes y byd. Nid oes dim yn hanes yr Eidal mor brudd a diwedd teulu Carrara. Yr oedd eu hymdrech yn un anobeithiol,