Skip to main content

Y DEYSOEFA. Rhif. 698.J RHAGFYR, 1888. [Llyfr LYIII. CYNGHOR I FLAENORIAID. (A draddodivyd yn Nghyfarfod Misol Lẁerpool, Hydref lOfed, 1888, ar Dderbyniad Dau Fraiod o Eglwys Bwncorn.} GAN Y PAECH. JOHN HUGHES, D.D. (YSGRIFENWYD GAN COFNODYDD.) Yr oedd yn dda genyf eich clywed yn dyweyd eich profìadau, ac yn adrodd eich golygiadau ar wirioneddau mawr- ion ein crefydd. 1. Mi ddymunwn arnoch, yn gyntaf, | feddwl yn 11 ed uchel am eich swydd— nid meddwl yn fawr am danoch eich ! hunain, nac ymfalchio yn eich dyrch- : afiad—ond meddwl yn uchel am y ; gwaith ag y mae yr Eglwys yn Run- | corn a'r Cyfarfod Misol hwn wedi eich \ neillduo iddo. Mae genym esiampl | un o'r rhai mwyaf a fu yn yr Eglwys erioed i wneyd hyny. Yr oedd Paul yn " mawrhau" ei swydd. Mae'n wir mai Apostol ydoedd efe, ond pe buasai dyn fel Paul—sant o ddifrifwch yr Apostol Paul—wedi ei ethol i'r swydd yr ydych chwi wedi eich ethol iddi, mae'n sicr y buasai yn ei "mawr- hau." Mae lle i ofni fod lluaws yn ein mysg ni, yn y dyddiau hyn, yn tueddu i edrych yn ìs nag y dylid ar y swydd hon, ac y mae yn amlwg fod yr hyn a elwir ymddiswyddo yn bygwth dyfod i arferiad. Blaenor yn cael ei anfoddhau gan Flaenor arall, neu gan ryw un yn yr Eglwys, yn bygwth resignio—ymddiswyddo ! Ni chlyw- ais I mo'r gair hwn yn mysg y Meth- odistiad hyd yn ddiweddar. Byddai aelodau gynt yn gwrthgilio, neu yn cael eu diarddel, ond nid byth yn anfon resignation. Byddai Blaenor- iaid yn meirw, ac ambell un yn cael ei fwrw o'i swydd, neu yn cael ei attal am dymmor, ond erbyn hyn yr ydym yn cael ein bygwth, fel peth cyffredin, gan resignations—rhai yn rhoi y swydd i fyny fel rhyw degan diwerth. Nid yw y rhai hyny ddim yn " mawr- ; hau" eu swydd. Ac y mae Com- j mittees of Management, a'r cyfryw \ bethau, yn awgrymu fod rhai o'r j Eglwysi yn barnu y gallant wella ar y ' gosodiadau apostolaidd—neu eu bod ! yn cywilyddio o'r gair Diacon—neu eu bod yn amddifad o ddynion i lanw y swydd a ordeiniodd Crist trwy ei Apostolion sanctaidd. Mae gan am- bell un arall fympwy mai am dair blynedd, neu bum' mlynedd, y dylid dewis Blaenoriaid. Yn mhell y byddo syniadau o'r fath! Dylem yn hytrach ymdebygu i'r hen Flaenoriaid da—ac y mae lluaws o rai da yn aros eto yn y Cyfundeb, o drugaredd—a synient fod y swydd yn un o osodiad Pen Mawr yr Eglwys, yn swydd y byddai raid iddynt roi cyfrif i Grist am eu gweinyddiad o honi, ac yn un na fedrent ymddyosg o honi ar ol myned iddi. Meddyliwch chwithau— nid meddwl yn wageddol, ond meddwl i yn sanctaidd—am fawredd y swydd. 1 Mae genyf gôf am un hen Flaenor yn 2 L