Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DHY/SOIIDFA. Rhif. 697.] TACHWEDD, 1888. [Llyfr LVIII. CYNLLUN 0 GYNNULLEIDFA. GAN Y PAECH. W. EYANS, M.A., PEMBEOEE DOCK. Y mae geiriau yn Uyfr Actau yr Apos- tolion sydd wedi ein taro fel yn aw- grymu Cynllun o gynuulliad crefyddol. Llefarwyd hwynt gan Cornelius o Cesarea wrth yr Apostol Pedr, ar ei waith yn cyrhaedd tŷ y canwriad i gynnal yr oedfa Gristionogol gyntaf ymysg y Cenedloedd. Ac y mae yn ^ffaith ddyddorol fod yr oedfa hono yn dwyn y cyfryw nodweddion ag sydd yn ei gwneuthur yn esiampl neu gyn- llun o wasanaeth crefyddol. Dyma y geiriau: " Yr awrhon, gan hyny, yr ŷm ni oll yn bresennol ger bron Duw, i lorandaw yr holl bethau a orchym- ynwyd i ti gan Dduw : " Act. x. 33. Sylwer, yr oeddynt " oll yn bresen- nol," ac fel y dengys yr hanes, yr oeddynt yn bresennol mèwn pryd; hefyd yr oeddynt "ger bron Duw," ac yn dysgwyl am was yr Arglwydd, ac am genadwri oddiwrth Dduw trwy- ddo. Dyma Oynllun o gynnulleidfa ag y dymunwn alw sylw ein holl eg- lwysi ato. Yn gyntaf—Oll yn bresennol. Fe ddywedir yn yr hanes pan ddaeth Pedr i dý Cornelius, efe " a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd." Yr oedd y oanwriad. wedi gwneuthur ym- drech i gasglu cynnulleidfa; "efe a alwasai ei geraint a'i anwyl gyfeillion ynghyd." Ac yn awr y maent "oll yn bresennol." Mae yr holl gynnull- eidfa yn gryno yn y cyfarfod. Nid yn aml y gwelir hyn. Gosodir ef i lawr fel math o ddeddf nas gall mwy na dwy ran o dair o gynnulleidfa fod yn bresennol yn yr addoliad yr un pryd ; mae cystudd ac amgylchiadau eraill yn cadw y gweddill yn eu car- trefleoedd. Ni a ganiatäwn fod y cyf- ryw reol yn anocheladwy. Eithr y mae yn aros mai nid yn aml y gwelir " yr oll yn bresennol " o gynnulleidfa a# a allant ddyfod i dŷ yr Arglwydd. Wéithiau rhaid gofyn nid pa le y mae y tri o'r deg, ond " pa le y mae y naw ? " Ac erbyn ymholi am y rhes- wm, ni chlywir dim ond mân esgusod- ion, sydd fel rheol yn waeth na phlent- ynaidd: cawod ysgafn o wlaw ar yr adeg i fyned i'r gwasanaeth, ychydig gur yn y pen, neu anwyd ar un o'r plant, cyfaill yn ddamweiniol wedi troi i fewn, rhyw negeseuon ag y dylesid bod wedi eu gwneyd yn flaen- orol neu y gellid eu hoedi, parotöi bwydydd, cynnulliad mewn lle auall, ac fe ddichon yn perthyn i'r deyrnas arall. Dyma'r fath bethau bychain a dibwys ag y mae nifer fawr o aelod- au ein cynnulleidfaoedd yn cymeryd arnynt eu bod yn cael eu rhwystro ganddynt i fod yn bresennol yn modd- ion gras. Ac y mae rhai o honynt yn adrodd y mân esgusodion hyn mor ddiniwed, feì-pe byddent yn credu nad ydys yn gallu gweled trwyddynt. Pe na byddai ddim ond diniweidrwydd, gallem yn hawdd edrych drosto; ond y gwirionedd difrifol ydyw mai an- nhueddrwydd, difaterwch, seguryd '■ meddyliol ac ysbrydol, diffyg argy- 2 H