Skip to main content

Y DEYSOEPA. Rhif. 696.] HYDREF, 1888. [Llyfr LYIII. BETH Y MAE YR YSBRYD YN EI DDYWEDYD WRTH YR EGLWYSI. GAN Y PAECH. W. MOEEIS, LLANDUDOCH. (Yr Araeth a draddodwyd yn y Gwasanaeth Ordeinio yn Nghymdeithasfa Bhymni, Awst laf, 1888.) " Beth y mae yr Tsbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi."— Dat. iii. 22. Gan mai i'r Ysbryd y mae yr eglwysi —pob eglwys sydd yn ffurfio rhan o'r eglwys fawr gyffredinol—yn gyfrifol am eu bodolaeth, ac mai arno ef y maent yn dibynu am eu tywys, eu diogelu, a'u llwyddo, y mae o'r pwys mwyaf i ni yn yr adeg yma ar ein haneB, i wybod beth a ddywed efe wrth yr eglwysi. Dylem fod yn ochel- gar rhag camsynied ei lais am ryw lais arall, megys Uais y mwyafrif, wrth benderfyau cwestiynau mawrion, a rhag ymlapio mewn deddfau anhy- blyg fyddo yn rhwystr i ni ei glywed 5 ac yn arbenig i edrych na bo ynom rywbeth fyddo yn peri iddo dewi wrthym. Gwyddom mai gormod hyfdra fyddai i ddyn ieuanc dibrofiad, gymeryd arno osod allan beth ddywed yr Ysbryd wrth yr eglwysi, pan y gŵyr fod y rhai sydd cyn ein geni yn gwylied beth a ddywed Efe, yn ofni ei gamsynied. Ond tybiwn yn wylaidd fod dau lwybr pur ddiogel, os nad anffaeledig, i'w ddeall. Un ydyw, ein hanes hyd yn bresennol. Y mae dau beth amlwg yn nodweddu ein hanes, sef ymlyniad diysgog wrth egwyddorion hanfodol ar un llaw, a doethineb i gyfaddasu ein hunain at anghenion yr amseroedd ar y llaw arall. Nid ydym wedi bod un amser heb ddynion, oedd fel yr offeir- iaid yn Israel gynt, yn gofalu yn eiddigeddus am y pethau sefydlog; a nifer dda oedd fel y prophwydi yn medru deall yr amseroedd, i wybod beth ddylasai Israel wneuthur. Ac y mae yn arwyddo yn dda am ein dyfodol fod y nodweddion hyn yn aros mor amlwg arnom. Llwybr arall i ddeall ei lais ydyw, amcan mawr yr eglwysi, sef achub y byd. Yr eglwys fwyaf perffaith ydyw yr eglwys fwyaf cyfaddas at y gwaith hwn. Dyna y fath eglwys oedd yr un apostolaidd— eglwys yn rhoddi mantais, nid yn unig i'r swyddogion, ond i'r aelod distadlaf, wneyd ei ran i gyrhaedd yr amcan mawr; a dyna oedd mewn golwg gan ein Tadau yn eu holl drefn- iadau, rheolau, a swyddau. Hyn lun- iodd holl neillduolion ein Cyfundeb. Pa beth bynag a ddywedir wrthym, os na fydd yn cydfyned âg amcan mawr yr efengyl, ni allwn fod yn sicr nad llais yr Ysbryd ydyw. Ni ddywed ef air sydd yn groes, nac yn anfantais leiaf i achubiaeth y byd. Dyma y ffordd ddiogelaf i ni gael ei feddwl gyda golwg ar y cwestiynau a berthyn yn fwyaf neillduol i ni fel Cyfundeb. Nid trwy gael meddwl y mwyafrif yn y Cyfarfod Misol a'r Gymanfa (nid yw llais y bobl o anghen- rheidrwydd yn llais Duw), ond wrth 2 £