Skip to main content

Y DEYSOEFA. Rhif. 694.] AWST, 1888. [Llyfr LYIII. PRIF NODWEDD YR ADEG BRESENNOL AR GREFYDD AO AR Y OYFUNDEB. GAN Y PABCH. T. C. EJDWARDS, D.D., ABEEYSTWYTH. (Yr Anerchiad a Draddodwyd wrth adael y Gadair Lywyddol yn y Oymanfa Gyffredinol yn Merthyr Tydfil, Mehefin lleg, 1888.) Anwyl Frodyr a Thadau,— Yr wyf wedi petruso llawer pa lwybr i'w gymeryd ar yr arngylchiad presennol. Ar y naill law, yr oeddwn yn ofni syrthio i'r hyn sydd weithiau yn brofedigaeth i mi, sef dyweyd fy meddwl yn rhy f yrbwyll ac anochelgar. Ar y llaw arall, yr oedd arnaf ofn myn- ed trwy y gorchwyl yn rhy ysgafn ac arwynebol, yr hyn a fyddai yn hollol annheilwng o'r fath gynnuUiad. Bum yn meddwl, weithiau, mai dyddorol i'r Gymanfa, a diogel, hefyd, i min- nau, fyddai adolygu gwaith a llwydd- iant y Cyfundeb er y Gymanfa ddi- weddaf, ac adgoffa ein coUedion trym- ion yn ystod y flwyddyn. Ond gwneir adolygiad trwyadl gan ein hystadeg- wyr, ao yn adroddiadau yr amrywiol bwyllgorau, sydd yn dal perthynas â'r Gymanfa, ac yn cario allan ei phen- derfyniadau. Yr ydym yn dra rhwym- edig i gydnabod llafur ein hystadeg- wyr, a gweithgarwch ein pwyllgorau, yn arbenig rhai o honynt. Heb y pwyUgorau, darfyddai llawer o ddy- lanwad y Gymanfa mewn siarad a phenderfynu. Ni fynwn ddibrisio ar- eithiau a phenderfyniadau, yn neilldu- ol pan gofiáf mai yn y oyf eiriadau hyn y gorwedd dawn a defnyddioldeb lliaws o frodyr. Eto, dylid ystyried fod gwerth, yn y ffyddlondeb a'r ddoeth- ineb sydd yn gweithio, i raddau, o'r golwg, yn nghyfarfodydd y naill bwyllgor a'r llall. Yn wir, y mae yn ammheus, a dyweyd y lleiaf, a ellid dwyn ymlaen yn llwyddiannus, achos- osion y Gymanfa, y Genadaeth Dra- mor, er engraifft, pe gadewid hwynt i'r areithwyr, y cynnygwyr, yr eilwyr, y cefnogwyr, a'r gweUiantwyr. Yr wyf yn dyweyd hyn yn unig am fy mod yn teimlo y dylem fod o galon yn ddiolchgar i aelodau ffyddlawn y pwyll- gorau, ac y dylai pob swyddog a ethol- ir ar bwyllgor ddangos ffyddlondeb hunanymwadol i fyned i'r cyfarfod- ydd, a chymeryd ei ran yn y gwaith. Am ein coUedion trwy angeu, y maent yn drymion. Pan y mae cynifer a dau ar bymtheg o weinidogion, a thri o bregethwyr, wedi eu galw oddiwrth eu gwaith gan eu Harglwydd mewn can Ueied a blwyddyn o amser, a hyny o gylch mor fychau, naturiol ydyw i ni dristâu, ac nid hawdd ydyw ym- attal oddiwrth bryder os bydd coUed- ion y flwyddyn sydd o'n blaen gy- maint a choUedion y flwyddyn sydd yn awr yn terfynu. Ond i mi nid gweddus na diogel hollol fyddai cyfeirio yn fanylach at y rhai sydd wedi ymadael. Yn unig, talaf yn ostyngedig y deyrnged syml hon, na fu neb erioed yn ein plith yn fwy cywir