Skip to main content

Y DEYSOEFA. Bhif. 692.] MEHEFIN, 1888. [Llyfr LYIII. Y PEIF FFEITHIAÜ YN HANES CEIST. GAN Y PARCH. T. JAMES, M.A., LLANELLI. II. EI FEDYDD. Amlygir gwahaniaeth rhwng yr Iesu â phawb eraill yn ei eiriau wrth Ioan ar làn yr Iorddonen : " Gad yr awr hon, canys fel hyn y niae yn weddus i ni gyflawni pob cyfiawnder." Eglura hyn ei uwchafiaeth ar Ioan, ac nad oedd yn anghenrheidiol ei fedyddio ef fel eraill o'r Iuddewon. Am ychydig amser yr oedd Ioan i fod mewn ym- ddangosiad yn uwch nag ef—" yr awr hon; " ymostyngai iddo yr adeg hono yn unig gydag amcan neillduol mewn golwg—" Er cyflawni pob cyfiawn- der." Geiriau cynnwysfawr yw y rhai hyn, ac anhawdd eu dirnad yn eu holl gysylltiadau. Diau y golygant fod hyn yn anghenrheidiol er cyflawni yr ewyllys Ddwyfol, ac ar ei ym- gysegriad ef ei hun i'w waith cyhoedd- us. Yr oedd fel Iuddew yn ufuddhâu i'r holl ddeddfau Iuddewig: enwaed- wyd ef yr wythfed dydd, cyflwynwyd ef yn y deml yn ol deddf Moses, aeth i Jerusalem pan yn ddeuddeg oed yn ol yr arferiad, talai dreth, ac yn awr eto ymostyngai i'r trefniant newydd hwn fel eraill. Gwir nad oedd hon yn ddefod Iuddewig, nac yn cael ei gorchymyn yn neddf Moses; eithr yr oedd o osod- iad Dwyfol, ac felly ymostyngai iddi. Ceir llawer o wahanol olygiadau ar fedyddiad yr Iesu gan Ioan, ac fel y gellid dysgwyl, cyfyd y gwahaniaeth- au hyn am y bedydd oddiar y farn a ffurfir am yr Iesu ei hun. Dywedir gyda llawer o briodoldeb gan rai: " Gan fod Ioan yn ei bregethau yn cyhoeddi'r holl bobl yn aflan, fod yr Iesu, er yn ddibechod ynddo ei hun, yn cael ei gyfrif yn yr un sefyllfa a'r Uiaws; fod ei gysylltiad â'r bobl yn ei wneyd yn seremoniol aflan, ac felly bod yn rhaid iddo, er bod yn ddiddrwg ei hun, i ddyoddef dros eraill." Dichon ei fod yn ymostwng i'r ddefod er cadarnhâu dwyfoldeb cenadwri y Bedyddiwr; er mwyn bod yn esiampl i bawb fuasai yn dyfod yn ddeiliaid o deyrnas nef- oedd, yn gystal ag er mwyn der- byn arwydd cyhoeddus o sefydliad ei deyrnas ei hun. Credwn mai un amcan mawr ei fedydd oedd, cyf- lwyniad cyhoeddus o hono ei hun i'w waith apwyntiedig. Awgrymai yr oedran, deg ar hugain, ddyfodiad dyn i'w gyflawn nerth, pryd yr oedd ei alluoedd wedi eu cyflawn ddadblygu, ac yn barod at y gwaith oedd ganddo i'w gyflawni. Dyma'r oedran y de- chreuai swyddogion cysegredig eu gwaith cyhoeddus yn ol deddf Moses; ac felly yr Arglwydd Iesu, yr Offeir- iad sanctaidd, a ymaflai yn yr eiddo yntau yr adeg hon, pan yn ddeg ar hugain. Teimlai fod yr amser wedi dyfod i ben pryd yr oedd yn rhaid iddo ym- gyflwyno yn gyfan-gwbl i'w waith. Pell ydym o feddwl mai yn awr y