Skip to main content

Y DEYSOEFA. Rhif. 691.] MAI, 1888. [Llyfr LYIII. CYNNWYS YR EPISTOL AT YR HEBREAID. GAN Y PARCH. T. C. EDWARDS, D.D., ABERYSTWYTH. Y mae yr Epistol yn gyfuniad o lythyr a thraethawd, ond ä yn fwy o lythyr ac yn llai o draethawd o'r dechreu i'r diwedd. Aincan yllythyr ydywcalon- ogi a syinbylu credinwyr o Israel i lynu wrth Grist. Rhoddir anican y traethawd gan yr ysgrifenydd sanct- aidd ei hun: " Duw, wedi iddo lefaru mewn llawer rhaa a llawer rnodd gynt wrth y tadau yn y prophwydi, a lefar- odd wrthyin ni mewn Mab." Pwnc yr Epistol ydyw rnai Crist yw y dad- guddiad perffaith o Dduw, a'i fod, oblegid hyny, yn haeddu i Israel yn anad neb ei dderbyn. Yr oedd pob dadguddiad blaenorol yn ddiffygiol mewn dau beth, yn y rhai y mae y dadguddiad yn Nghrist yn gyflawn. Yn gyntaf, mewn rhanau anghysyllt- iol y dadguddiai Duw ei hun o'r blaen; ond yn awr ceir dadguddiad o hono mewn un sydd yn Etifedd ac yn Gre- awdwr pob peth. Yn ail, yr oedd pob dadguddiad blaenorol mewn gwahanol foddion neu gyfryngau; ond yn awr rhoddir y dadguddiad mewn Un sydd (1) yn ddysgleirdeb gogoniant Duw; (2) yn ddelw ei hanfod; (3) yn Gyn- nalydd pob peth; (4) yn Frenin ac Offeiriad yn dragywydd. Yr olaf o'r pedwar mater a enwyd ydyw testun mwyaf uniongyrchol yr Epistol: Crist y dadguddiad cyflawn o Dduw fel Offeiriad ar ei frenin-fainc. Yn yr oes hono, y farn gyffredinol oedd mai yr angylion oedd yn dad- guddio Duw. Ond myn yr awdwr hwn mai nid yr angylion sydd yn cyf- ryngu rhwng Duw a dynion, ond Un sydd yn Fab Duw ac yn gynnrychiol- ydd dyn. Dyma bwnc y ddwy ben- nod gyntaf. YTr allwedd i'r bennod gyntaf ydyw fol y Mab yn Dduw; ac i'r ail bennod, ei fod wedi ei ogon- eddu fel Mab Duw am mai efe hefyd ydyw y Dyn. Y mae gogoneddiad y Mab yn gynnwysedig mewn pedwar peth: (1) effeithiolrwydd eiiawn; (2) bod yn Dywysog iachawdwriaeth; (3) awdurdod i gysegru dynion i Dduw; (4) dinystrio y diafol. Efe a ennill- odd y gogoneddiad pedwarplyg hwn trwy ei ymostyngiad fel Dyn (i. 4— ii. 18). 0 ddechreu y drydedd bennod hyd ddiwedd y bedwaredd, y pwnc ydyw unoliaeth y dadguddiad dan y ddwy oruchwyliaeth, Yn gyntaf, y mae Moses a Christ yn un fel goruchwyl- wyr Duw, ond gyda'r gwahaniaeth fod Crist yn fwy fel goruchwyliwr am ei fod yn Fab. Yn ail, y mae bygythion yr Hen Destameut mewn grym dan y Testament Newydd, a hwy a fydd- ant mewn grym tra y swnir y gair "Heddyw" yn ein clustiau. Yn drydydd, y mae addewidion yr Hen Destament mewn grym dan y Testa- ment Newydd. Dangosir hyn trwy esiainpl. Yrr engraifft a ddetholir ydyw yr addewid am Sabbath, prif syniad yr Hen Destament, a dangosir y cynnydd graddol a geir yn ystyr y S ibbath, hyd nes y deuwn at y per-