Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEPA. Ehif. 667.] MAI, 1886. [Llyfe LVI. ZE L. GAN Y PARCH. 0. JONES, B.A., LIYERPOOL. Ystyr y gair zel ydyw gwrês. Ond y mae mwy nag un math o wrês; bu zel yn golygu gwrês tân naturiol, yn awr golyga wrês teimlad. Y mae yr holl eiriau y cyfieithir y gwreiddiol iddynt yn Ysgrythyrau yr Hen Desta- ment a'r Newydd yn dynodi hyn. Cyfieithir y gair Hebraeg Mnah; a'r gair Groeg zêlos, yn cenfigen, eiddig- edd, a zel. Golyga gwreiddyn y gair Tcinah, gwynias; a gwreiddyn y gair zêlos, henoi; gwelir felly fod a fyno tân o ryw ystyr âg ef yn y ddwy iaith. Awgryma Dr. Davies fod perthynas rhwng y gair cenfigen â'r Hebraeg Tcinah; ac y mae yn ddilys fod a fyno y gair cynneu âg ef. Ymha un o'r ddwy iaith y defnyddiwyd ef gyntaf, diau na allai dysgedigion benderfynu; ond ystyr y gair yn y ddwy iaith yd- yw, " teimlad wedi ei ennyn mewn un o herwydd rhagoriaeth arall arno mewn unrhyw beth," nes peri iddo ddymtino aflwyddiant iddo, a gweith- redu i sicrhâu hyny, neu ynte godi awydd angerddol ynddo i ragori ei hun arno, ac ymdrechu i gyrhaedd hyny. Dyna hefyd yw ystyr gyntaf y gair Groeg zêlos, ond yn benaf mewn ystyr dda, sef cydymgais, awydd iachus i ragori mewn unpeth. Dyna hefyd yw ystyr y gair Cymraeg eiddig- edd, y gair a ddefnyddir amlaf yn y cyfieithiad o'r Hen Destament; aidd, a olyga wrês; eiddig, un y mae gwrês ynddo; ac eiddigedd ydyw y peth yma fel ansawdd. Golyga deimlad cryf, yn codi oddiar deilyngdod a rhagoriaeth gwrthddrych, am fedd- iannu y gwrthddrych hwnw iddo ei hun, ac na chaflb neb arall ef ond efe. Y mae i hwn hefyd ei ddwy ochr: serch at wrthddrych nes gwneyd a allo i'w feddiannu; neu, os metha ei gael a'i gadw, i attal i neb arall ei gael. Defnyddir ef yn neillduol yn y cysylltiad priodasol, ac am y teimlad hwnw yn yr Arglwydd sydd yn cael ei amlygu yn ei gariad yn cymeryd rhai i gyfammod âg ef ei hun, ac yn ei ddigofaint yn wyneb eu hanflyddlon- deb iddo. " Eiddigedd sydd greulawn fel y bedd; ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt." Gwelir ar unwaith mai gair heb ei gyfieithu ydyw zel, gan nad ydyw ond. y fíurf Gymreig ar y gwreiddiol; yr un modd am zeal yn y Saesonaeg, a zelus yn y Lladin, ac nid yw y gair jealousy ond yr un gair wedi cymeryd y fíurf hon yn ei dreigliad trwy y Ffrencaeg. Gadäwyd y gair yn ang- ^ hyfiaith yn y manau y ceir zel yn yr Ysgrythyr, am y dymunai y cyfieith- wyr i'r ystyr iddo yn ei ëangder gael ei gymeryd yn y manau hyny. Y mae treigliad amser yn treiglo geir- iau hefyd, nes y maent yn cyfnewid yn eu hystyr, a geiriau fuont yn gyf- ystyr yn dyfod i gynnwys ystyron gwahanol, fel y mae cenfigen ac eiddigedd yn engreifftiau. Meddwl y gair zel, ynte, ydyw, "brwdfrydedd, neu wresogrwydd teimlad o blaid neu yn erbyn gwrthddrych neu achos, yn amrywio yn ei raddau yn ol fel y byddo nerth a grym yr hyn a'i cyn- nyrcho."