Skip to main content

Y DEYSOEEÁ, Ehif. 666.] EBEILL, 1886. [Llyfr LVI. YE EFENGYL YN BOBLOGAIDD, AC ETO YN SYETHIO YN FYE O GYNNYBCHU EDIFEIEWCH. GAN Y PARCH. GFJFFITH DAVIES, ABERTEIFI. Marc i. 37 ; Luc iv. 42; Ioan vi. 59; Matt. xi. 20—24. Ye ydym yn cyfeirio at y gwahanol destynau uchod er niwyn cael golwg ar weinidogaeth yr Arglwydd Iesu yn Capernaum yn ngoleuni adroddiad y pedwar Efengylwr. Heb hyny nis gallwn gael golwg gywir a chyflawn ar y mater pwysig hwn. Darfu i'n Gwaredwr wneyd Caper- naum yn brif le ei fywyd cyhoeddus yn Galilea. 0 herwydd hyn\ y mae yn cael ei galw " ei ddinas ei hun "— am ei fod yn cartrefu yno. Tebygol ydyw mai yn nhŷ Simon Pedr yr oedd efe yn aros. Un o'r rhai a gafodd y fraint o wasanaethu fwyaf arno oedd chwegr Simon, yr hon a iachasai efe o'r cryd. Paham Capernaum? Dichon fod prydferthwch golygfeydd yn un rhes- wm. Yr oedd yr Iesu yn hoff o brydferthion natur, ac yn eu cymeryd yn arwyddlun o effeithiau ei grefydd ar y byd. Tebyg iawn i Gymru oedd y golygfeydd oddiamgylch i'r lle hwn —cydgyfarfyddiad o'r prydferth a'r rhamantus. Nis gallwn iai na medd- wl hefyd am bwysigrwydd masnach- ol y lle. Dywedir fod cymaint â phedair mil o lestri weithiau ar lyn Galilea; a Chapernaum oedd y fwyaf o lawer o'r holl drefydd ar lànau y môr cynnyrchiol hwnw. Aeth Ioan i'r diffeithwch i bregethu; ond ym- ddangosodd yr Iesu yn nghanol cym- deithas. " Daeth Crist," meddai Dr. Farrar, " nid i chwyldroi, ond i ddyrch- afu a sancteiddio cymdeithas." Yr oedd drachefn yn Capernaum gyd- gyfarfyddiad o dair iaith bwysieaf y byd: yr Hebraeg, a'r Groeg, a'r Lladin. Y Groeg yn arbenig a fu yn gyfrwng i ledaenu gwirioneddau yr efengyl mor gyffredinol. Nid rhyfedd gan hyny i'r Iesu " ddechre preg- ethu" yn Galilea, a gwneyd Caper- naum yn ganolbwynt ei weithrediad- au. Traddododd ei bregeth gyntaf oll "yn Nazareth, lle y magesid ef." Darfu i'r bobl yno gan rym eu hang- hredìniaeth ei wrthod, ac amcanu ei lofruddio. Yr oeddynt hwy wedi ymgynnefino âg ef; ac wrth fod ei eiriau yn eu profi, fe'u "llanwyd gan ddigofaint" tuag ato. Ond nid oedd pobl Capernaum wedi cael mantais i ymgynnefino âg ef, a dangosasant hwy y parch a'r croesaw mwyaf iddo. Yr oedd efe a'i apostolion wedi myned mor boblogaidd yno fel yr oedd " pawb yn ei geisio," ac fel yr oedd yn gorfod dyweyd wrth yr Apostolion am ddyfod eu hunain i le anghyfan- nedd i gael gorphwys. Felly y mae Marc a Luc yn darlun- io ei boblogrwydd. Y rnae'r hanes yn y chweched bennod o Efengyl Ioan yn dangos adeg y prawf wedi dyfod. Yn yr ymadroddion a gofnod- ir yno, nid dysgu ei wrandäwyr yn unig y mae'r Iesu, ond eu profi— eu nithio. "Y Gẃr â'r wyntyll yn