Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEFA. Rhif. 665.] MAWETH, 1886. [Llyfr LVI. Y WEINIDOGAETH FETHODISTAIDD. GAN Y PARCH. JOHlS PRITCHARD, AMLWCH. Credwn m ai y weinidogaeth yw un o'r pynciau pwysicaf a berthyn i'n Cyf- undeb y ayddiau hyn; oblegid hi, fel moddion dan fendith Duw, a roddodd iddo ei fodolaeth; ac y mae ei barhâd rnewn defnyddioldeb i'n cenedl yn ymddibynu ar iddi barhâu yn rymus ac yn nerthol yn ein plith. 0 gan- lyniad, tybiwn y gahai erthyglau arni yn y Drysorfa weithiau fod o les i'r Cyfundeb, er iddynt wahaniaethu oddiwrth eu gilydd mewn rhai peth- au. Mae cyfundrefn weinidogaethol Methodistiaid Cymru yn gwahaniaethu oddiwrth eiddo pob enwad crefyddol adnabyddus i ni. Mae yn debyg mai y gyfundrefn Wesleyaidd yw y debyc- af iddi; ond y mae gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy, er hyny. Gellir dy- wedyò mai dwy gyfundrefn y sydd mewn gwirionedd, sef y deithiol a'r sefydlog, ond fod gan y ddwy eu heithafion. Y gyfundrefn deithiol sydd wedi bod mewn arfcriad ymysg Methodistiaid Cymruhyd y pryd hwn; ac mae yn ymddangos fod peth anes- mwythder mewn rhai y dyddiau hyn, os nad oes ynddynt hefyd awydd i newid y deithiol am y sefydlog— myned o un eithaf i eithaf arall. Mae yn debyg na ddysgwylir i'r fath gyf- newidiad gymeryd lle yn fyrbwyll, heb dalu sylw manwl i'r manteision a'r anfanteision perthynol i'r ddwy gyfun- drefn. Bu y weinidogaeth deithiol yn barchus iawn gan ein hen dadau; a chredwn ei bod yn parhâu felly gan fwyafrif mawr ein Cyfundeb; o gan- lyniad, dylai gael cyfiawnder beth bynag oddiar law Methodistiaid, i'r rhai y bu mor wasanaethgar o'r de- chreuad hyd yn awr. Os oes rhai yn edrych arni yn hen ac yn oedranus ac yn agos i ddifianu, ac yn dysgwyl fod cyfundrefn arall ragorach na hi ar ym- ddangos, credwn y dylai gael marw o farwolaeth naturiol, ac nid cael ei llofruddio, ac mai gweddus iddi gael claddedigaeth barchus, heb ei chablu yn ei hangladd, ond cael gair o gan- moliaeth am y gwaith mawr a da a wnaeth yn nyddiau ei hieuenetyd. Ein hamcan yn yr erthygl hon fydd ceisio ei harnddiffyn yn yr hyn y camddar- lunir hi, a phrofi ei bod yn ei chysyllt- iad â'r fugeiliaeth yn tra rhagori ar y gyfundrefn sefydlog. Nid ydym yn bwriadu ceisio amddiffyn eithafion teithiol ein Cyfnndeb, na chondemnio unrhyw ymgais am sefydlogrwydd cymedrol, ond ceisio gwaredu y wein- idogaeth deithiol gymedrol oddiwrth y gor-ddirmyg a deflir arni, a'r un sefydlog eithafol oddiwrth y gor-gan- moliaeth a roddir iddi, gan rai per- sonau yn ein plith fel Methodistiaid. Ni a gymerwn ddarnodiad brawd ag sydd wedi ysgrifenu yn ddoniol yn ddiweddar yn erbyn y weinidogaeth deithiol, ac o blaid y weinidogaeth sefydlog—o'r gyfundrefn deithiol mewn gwrthgyferbyniad i'r gyfundrefn sefydlog; ac yn ol ei ddarnodiad, nid oes genym fel Cyfundeb yn Nghymru, ond gweinidogaeth deithiol; canys dywed, "Wrth hyn y meddyliwn weinidogaeth bresennol y Methodist- iaid yn Nghymru." Ac y mae "y weinidogaeth bresennol " yn cynnwys