Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEFA. Rhif. 664] CHWEFROE, 1886. [Llyfr LVI. ADDYSG Y WEINIDOGAETH. GAN Y PARCH. WILLIAM EYANS, M.A., PEMBROEE DOCK. Y mae addysg gweinidogion yr efengyl yn gynnwysedig o ddwy ran, yr un fath âg addysg meddygon, a chyfreith- wyr, neu unrhyw ddosbarth arall yn gofyn dysgeidiaeth uchel, sef, y gyíî- redinol a'r neillduol. Cynnwysa y rhan gyffredinol o'r addysg ieithydd- iaeth, mesuroniaeth, atbroniaeth, a gwyddoniaeth. Y mae gwybodaeth o'r inaterion hyn yn gymhwysder i bob math o sefyllfa o gyfrifoldeb a dylanwad mewn cymdeithas, ac yn arbenig i'r weinidogaeth. Ond fel y mae yn rhaid i feddygon, a chyfreith- wyr, ac eraill wrth addysg neillduol i'w cymhwyso i'w galwedigaethau, y màe yn dra rhesymol fod gweinidog- ion yr efengyl yn cael addysgiad effeithiol yn y wybodaeth o'r pethau sydd yn perthyn yn neillduol i waith eu swydd. Yr ydym yn cael hefyd, tra bydd y meddygon yn cerdded yr ysbyttai, eu bod yn rhoddi eu holl amser i barotoi ar gyfer eu galwedig- aeth, ac mai dyma y peth diweddaf a wnânt cyn ymgymeryd âg ymarferiad. Mae yr un peth yn wir am gyfreith- wyr, yn enwedig bargyfreithwyr. Ac onid dyma y ffaith gyda golwg ar grefftau cyffredin by wyd ? Gorphenir yr addysg gyffredinol yn gyntaf yn yr ysgolion elfenol a chanolraddol; ac yna y mae y saer, neu yr argraffydd, neu y masnachwr, yn myned trwy gwrs o egwyddor-wasanaeth fel ag i'w baro- toi yn uniongyrchol at orchwyl beun- yddiol ei fywyd, Dyma y dull cy- ffredin ymha un yr ydys yn gweith- redu, ac fe deùnlir gan bawb ei fod yn hollol briodol. Ein dadl ydyw, y dylid gweithredu yn ol yr un egwyddor yn nygiad ym- laen addysg ein hymgeiswyr am y weínidogaeth. Fod yn rhaid i weinid- ogion yr efengyl gael dysgeidiaeth dda sydd yn amlwg, ac yn cael ei gydnabod ymron gan bawb, ac yn cael ei deimlo yn argyhoeddiad dwfn gan bawb meddyìgar. Ac yn neillduol yn ngwyneb cynnydd addysg yn ein gwlad, mae y mater hwn yn dyfod yn un pwysig a difrifol. Os yw y pulpud Cymreig i barhâu yn ei ddylanwad a'i effeithiolrwydd, mae yn dyfod yn fwy anghenrheidiol o flwyddyn i flwyddyn fod y sawl a fydd yn esgyn iddo yn ddynion o wybodaeth a diwylliant. Fel y mae wedi cael ei ddyweyd eil- waith a thrachefn, yr oedd y rhai a fuont y prif offerynau i sylfaenu y gangen o'r Eglwys Gristionogol y perthynwn iddi yn ddynion dysgedig. Ac er na chafodd y pregethwyr mawr oeddynt yn blodeuo yn ein gwlad yn niwedd y ganrif o'r blaen, ac yn nechre hon, fanteision athrofäol, y mae pob tystiolaeth sydd genym am danynt yn profi iddynt fod yn ddiwyd iawn yn amaethu eu meddyliau, ac iddynt lwyddo i gasglu gwybodaeth lawer. Pe buasent yn awr yn fyw, y mae pob sicrwydd y buasai y rhan fwyaf, os nad yr oll o honynt, yn gefnogwyr aiddgar i bob symudiad er sicrhâu | gwasanaeth gweinidogion o gyrhaedd- ! iadau uchel i'r holl eglwysi. Eithr, heb fyned yn ol i'r gorphenol, y mae i yn hawdd canfod mai y rheol gyda ! golwg ar y fyntai fawr o bregethwyr ' sydd yu awr ar y maes ydyw, mai y