Skip to main content

Y DEYSOEPA. Rhif. 602.] RHAGFYR, 1880. [Llyfr L. CODI PREGETHWYR. G-A.N Y PARCH. L. EDWARDS, D.D., BALA. Bu y pwnc hwn dan sylw yn y Gym- deithasfa ddiweddaf, pryd y traddod- wyd llawer o gynghorion buddiol a diírifol; ac ni fwriecür ychwanegu dim yma yn wahanol i'r hyn a ddywedwyd yno, ond dwyn ymlaen y drafodaeth yn yr un cyfeiriad, er mwyn i'r eglwysi gael mantais i roddi ystyriaeth bwyllog i'r cyfrifoldeb sydd yn gorphwys ar- nynt yn yr achos hwn. Ac wrth dde- chre ar hyn o orchwyl y mae yn an- hawdd peidio teimlo y peryglon sydd ar bob llaw; oblegid ni a allwn wneuthur drwg wrth geisio gwneuthur daioni. Y rhai tyneraf eu cydwybodau yn gyff- redin sydd barotaf i gymeryd eu di- galoni yn ngwyneb rhybuddion, tra y mae y rhai y bwriadwyd hwynt iddynt yn cuddio eu hunain y tu cefn i dar- ìan o anystyriaeth. Pa gymhwysder- au bynag sydd yn anghenrheidiol i waith y weinidogaeth, y mae gostyng- eiddrwydd llednais yn un o honynt; nid ffug-ostyngeiddrwydd yn amcanu trwy y cwbl at dderchafiad, ond gos- tyngeiddrwydd yn tarddu o deimlad dwfn o fawredd y gwaith, a'r anghen am allu a galwad oddiuchod i roddi iddynt hawl i ymaflyd ynddo. Y rhai sydd yn meddu y teimlad hwn yw y rnai y dylid bod yn ochelgar rhag dy- wedyd dim a fyddo yn tueddu i'w rhwystro. Y mae perygl arall wrth son am anghymhwysder rhai pregethwyr, rhag rhoddi y gefnogaeth leiaf i neb haeru fod y dosbarth hwn yn lliosog. Y mae rhyw bersonau yn dangos eu bod yn meddu graddau helaeth o ddawn i gyff- redinoli. Os dywedir i'od yn ddyled- swydd ar yr egiwysi ddewis rhai i'w bugeilio, cesglir ein bod yn erbyn i neb fod yn bregethwyr heb fod yn fugeil- iaid. Ac os dywedir y byddai yn well i lawer aros gyda'u gorchwylion yn lle dysgwyl yn ofer am eu gaiw i arolygu eglwysi, cesglir drachefn ein bod yn troi i anghefnogi y fugeiliaeth. Felly yn yr achos hwn: os dywedir fod rhai anghymhwys yn cael eu codi i breg- ethu, cymerir hyn gan rai fel addefiad mai dynion anghymhwys y w y mwyaf- rif o fcregethwyr ieuainc yr oes hon. Pell oddiwrthym fyddo tybiaeth mor angharedig a chyfeiliornus; oblegid y mae yn sicr na fu ein pregethwyr, a'u cymeryd gyda'u gilydd, yn fwy cy- mhwys mewn un oes, gyda golwg ar eu gwybodaeth a'u buchedd, nag ydynt yn yr oes hon. Dichon nad oes yn ein gwlad, mewn ystyr foesol, fynydd- oedd mor uchel ag a fu; er hyny dylid ystyried fod yma wahaniaeth rhwng y moesol a'r naturiol, trwy fod mynydd- oedd moesol yn mwyhâu, tra y mae mynyddoedd naturiol yn lleihâu, yn ol y pellder y byddom oddiwrthynt. Gallesid meddwl fod oes Ebenezer Morris yn oes euraidd mewn dawn pregethu; ac eto dywedai unwaith wrth Mr. Roberts, Amlwch, na fuasai ganddo un syniad am bregethu nerthol pe na buasai wedi clywed Robert Ro- berts, Clynnog. Felly yr oedd Christ- mas Evans yn edrych yn ol gydag edmygedd parhâus at Rowlands, Llan- geitho. Ar y cyfan, y mae y teimlad hwn o barch i henafiaeth yn deimlad iachus a dymunol; ac nis gallwn oll wneuthur yn well na chylrif ein hun- ain yn eiddilod, yn sparbils chwedl Christmas, o'n cymharu â'r rhai a fu 2 L