Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSORFA. Rhif. 601.] TACHWEDD, 1880. [Llyfr L. B E D Y D D. GA.N MR. THOMAS LEWIS, BANGOR, A'R FRON, LLANGEFNI. II. Y prif reswm a ddygwn dros fedyddio {)lant yw, am eu bod yn aelodau eg- wysig. Yr ydys yn profi fod plant credin- wyr yn aelodau eglwysig yn 1. Am eu bod felly o dan yr hen oruchwyliaeth, ac nad oes air o sôn am eu tori allan o dan y newydd, yr hon sydd helaethach ei breintiau. 2. Gellir tybied fod tystiolaeth ben- dant Crist yn profi hyny : " Eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd." 3. Pan sonir yn y Testament Newydd am rieni yn proffesu Cristionogaeth, ac yn cael eu bedyddio, crybwyllir bob' amser fod y " teulu," y " tylwyth," yr " eiddo oll," &c, yn eu dilyn. 4. Mae yr Epistolau hyny sydd wedi eu cyfeirio at eglwysi, yn cyfeirio at blant, ac yn eu cynghori, ac felly rhaid eu bod yn yr eglwysi hyny. 5. Mae ymresymiad yr Apostol am sancteiddrwydd y plant, pan fo un o'r rhieni yn credu, yn profi yr un peth. 6. Mae cysyíltiad rhieni â phlant mor agos, fel y mae y naill o anghen- rheidrwydd yn yr un ystâd a'r llall yn eu cysylltiad â'r byd hwn. Gellir dyweyd mwy na bod gan y plentyn hawl i aelodaeth eglwysig yn ei berth- ynas â'i rieni, sef, yn wir, nad oes gan y rhieni hawl i beidio ei ddwyn i fyny yn aelod. Mae y credadyn wedi rhoddi ei hunan, gorff ac enaid, ac oll a fêdd, i*r Arglwydd Iesu, ac o ganlyniad, nis gaU fod ganddo hawl i gadw ei blentyn oddiwrtho; yr Arglwydd a'i piau. " Wele plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd." Y mae o dan rwymau irw fagu iddo, a hyny yn y lle mwyaf man- teisiol, ac yn nghyrhaedd y dylanwadau goreu, er mwyn iddo dyfu i fyny yn blentyn da; a pha le yw hwnw ond eglwys Dduw ? 7. Mae y fendith sydd wedi dilyn magu plant yn yr eglwys trwy yr oesau, yn profi fod y nefoedd yn cymeradwyo hyny. Ai ol dyfod i'r penderfyniad fod plant yn ddeiliaid bedydd, y mae cwestiwn arall yn ymgynnyg i'r meddwl, sef, A ddylid bedyddio rhyw blant heblaw plant aelodau eglwysig ? Gan nad oes genym yn y Testament Newydd nac esiampl na gorchymyn pendant ar hyn, mwy nag sydd genym am fedyddio plant credinwyr, nid oes genym ond ceisio casglu ac ymresymu oddiwrth wirioneddau a addefir yn gyff- redinol, pa un yw y mwyaf unol âg amcan a dyben sefydliad yr ordinhâd. Ymddengys fod pob rheswm ysgry th- yrol a ellir dawyn ymlaen dros fedyddio plant credinwyr, yn rheswm yn erbyn bedyddio plant eraill. Edrycher paham y bedyddir plentyn y credadyn. 1. Am ei fod yn aelod eglwysig. Yna os na bydd baban yn aeloá, ni ddylid ei fedyddio. 2. Am yr enwaediad gynt, y plant oedd o fewn cyfammod Duw. Yna ni ddylid bedyddio plant yn awr oni byddant o fewn y cyfammod. 3. Am fod genym hanes yr Apostol- ion yn bedyddio teuluoedd credinwyr. Yna gan nad oes un hancs am fedydd- teuluoedd rhai digred, ni ddylid 10 gwneuthur hyny yn awr. 2 H