Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y. DEYSOEPA. Rhif. 600.] HYDREF, 1880. [Llyfr L. YCHYDIG NODIADAU AR AWSTIN. GAN Y PARCH. GRIFFITH PARRY, ABERYSTWYTH. II. Yn yr ysgrif flaenorol,* taflwyd golwg fer a brysiog ar y lle a lanwai Awstin yn yr Eglwys Foreuol, ac ar y dylan- wad a gariodd ar hanes meddwl crist- ionogol trwy yr oesoedd, o hyny hyd yn awr. Cydnabyddir nerth a dyfn- der y dylanwad hwn gan ysgrifenwyr o bob gradd a phlaid. Dywed un fod Awstin "wedi cyflawni i feddyl- ddysg cristionogol yr hyn a wnaethai Athanasius i arddansoddiaeth cristion- ogol."t Dywed un arall fod Awstin "yn un o bedwar tadau mawr yr Eglwys Ladinaidd, ac yn addefedig y mwyaf o'r pedwar; yn fwy dwfn nag Ambrose, ei dad ysbrydol, yn fwy gwreiddiol a chyfundrefnol na Jerome, ei gydoeswr a'i ohebydd, ac yn llawer mwy o ran meddwl na Gregory Fawr, yr olaf o'r gyfres. Gellir dyweyd fod safle dduwinyddol a dylanwad Awstin yn ddigyffelyb. Ni ddarfu i'r un enw unigol erioed gario y fath allu dros yr Eglwys Gristionogol, ac ni ddarfu i'r un meddwl unigol erioed wneyd y íath argraff ar feddwl y byd cristionogol." î Y mae Dr. Hampden, wrth gymharu yr Eglwysi Groegaidd a Lladinaidd, yn cyffelybu Awstin i'r Apostol Paul. " Pa le eto," meddai, " y gallwn weled yn yr Eglwys Roegaidd gyffelyb i Awstin, y person, fe allai, yn nesaf at Apostol mawr y Cenedloedd, y mae yr achos o^Btionogol, mor bell ag y mae gallu dynol wedi ei gynnal, yn fwyaf * Y Drysoefa am fls Awst. t Db. Smith ŵ Professor Wace's Dictionary of Christian Biography.: Árt. Augustine, p. 210. t Encyclopmdia Britannica, Vol. III., 9th Ed. ■Art. Augdstine. dyledus iddo am ei nerth a'i oruchaf- iaeth presennol. Y mae yn Awstin rai llinellau o gymeriad yn dwyn cyffelyb- rwydd cryf i'r eiddo yr Apostol ei hunan. Amlygodd zel äanllyd, fel yr eiddo yr Apostol; gwyliadwriaeth nad oedd byth yn cysgu dros anghenion ysbiydol yr eglwys, fel yr eiddo Paul; fel Paul hefyd, gaìlu mawr i ymresymu, cyflymdra i weled grym gwrthddadleu- on hereticaidd, ac i'w hateb yn effeith- iol. Fel yr Apostol eto, yr ydoedd wedi bod yn ddysgybi zelog ac ymrodd- gar i gyfundraeth wrthwynebol o gref- ydd. Yr oedd Manicheaeth ei fywyd boreuol wedi meithrin tân brwdfryd- edd o'i fewn, megys yn mynwes ieu- anc Paul, yr oedd rhagfarnau Pharisead wedi cynneu i fflamau erlidiwr. Nis gallasai y naill na'r llall o honynt gymeryd rhan oddelol, israddol, mewn unrhyw gwrs yr ymgymerent âg ef."* II. Byddai yn ddyddorol chwilio i achosion dylanwad mor nerthol, mor eang a pharhâus. Un achos, dybygem, oedd y math anghyffredin hwnw o fawredd meddyliol a allai gymeryd i mewn ac uuo egwyddorion neu gyfun- draethau a ymddangosent yn wrthgyf- erbyniol, a'r rhai nas ceid mewn dyn- ion yn gyffredin ond ar wahan. Ceid fod elfenau goreu cyfundraethau gwahanol o athroniaeth wedi cydgyfar- fod yn ffurfiad ei gymeriad meddyliol. Dywed Hagenbach fod ymddangosiad Awstin yn ddechreuad cyfnod newydd * The .Çfíhola.sfic Philosophy considered in its relation to L'hristian Thcology: Dr. Hampden's BainiMon Léctures : Sec. I. p. 19. % B