Skip to main content

Y DEYSOEFA. Rhif. 599.] MEDI, 1880. [Llyfb L. ARFAETH DUW AC ETHOLEDIGAETH GRAS. GAN Y PARCH. EVAN JONES, CAERNARFON. [V mae yn arferiad er ys blynyddoedâ bell- ach yn Nghyfarfod Misol Arfon i ry w fater athrawiaethol neu ymarferol fod yn des- tun ymdriniaeth yn nghyfarfod bore y dydd cyntaf. Penodir y materion hyn, ynghyd a'r personau i draethu arnynt, yn gyffredin fisoedd ymlaen llaw. Weithiau ymfoddlona agorydd y mater, fel ei gelwir, yn unig ar roddi anercbiad; bryd arall dar- para bapyr ysgrifenedig i'w ddarllen. Dis- gynodd y testun uchod i ran yr ysgrifen- ydd, a darparwyd y papyr hwn arno. Ceisiodd y Cyfarfod Misol ganddo ei ddan- fon i'r wasg, ond nid yw hyny mewn un modd yn gwneyd y Cyfarfod yn gyfrifol am dano. Nid ydys yn hòni gwreiddiolder yn yr hyn a ddywedir: a danfonir y sylw- adau hyn i'w hargraffu yn benaf, mewn adeg y degymir y mintys, a'r anis, a'r cwmin, er mwyn galw sylw, o leiaf, at fater teilwng.] Pe goddefasid i mi ddewis mater i draethu ychydig arno ar yr amgylch- iad presennol, gallaf sicrhâu y cyfarfod yn ddibetms y gadawswn y pethau dyfnion a gogoneddus hyn—Arfaeth Duw ac Etholedigaeth Gras—i rywrai eraill eangach eu cyrhaeddiadau, mwy treiddgar eu cynneddfau, a llawer iawn dyfhach eu hysbrydoedd a'u profiadau, na mi fy hun. Ond yn gymaint ag nad oedd genyf na rhan na chyfran yn newisiad y fath destun goruchel a go- goneddus, heblaw ymgymeryd â'r hyn a osodid arnaf, yr wyf yn gwneyd hyny yn benaf, nid yn y dysgwyliad o allu gwneuthur dim yn deilwng ar y pwnc, ond fel engraiíft o ufudd-dod, dan am- gylchiadau anhawdd, i'j awdurdodau goruchel fu â llaw yn nygiad y mater- lonallan. Yn yr iaith yn yr hon y Uefarwyd y rhan fwyaf, os nad yr oll, o'r Testament Newydd, ystyr y gair a gyfieithir gen- ym ni " arfaeth " ydyw, gosod allan— fel gosod allan gorff marw; gosod o flaen neu ger bron, dangos; a defuydd- ir ef am y bara gosod, fel ymborth a osodid, yn arwyddluniol, ger bron yr Arglwydd yn y cysegr sanctaidd, ar yr hwn, mewn ystyr gysgodol, trwy yr offeiriaid, ei weinidogion, yr ymbortn- ai. Mewn ystyr ysbrydol ac uwch, defnyddir yr un gair am yr hyn a osod- ir o naen a cher bron y méMdwl, fel yr hyn y mae yn ymborthi neu yn maethu ei hunan arno; ac am hyny gelwir y peth yn arfaeth—bwriad, amcan, cy- nghor, rhagordeiniad, a rhagluniaetn- iad; ac vn gymaint a bod y pethau hyn, ymhob bôd rhesymol, yn rhag- flaenu pob gweithrediad o'i eiddo, pan fyddo neb yn bwriadu gwneuthur un- rhyw beth, dywedir ei fod yn ei ar- faethu. " Arfaeth Duw ydy w ei dragy- wyddol fwriad, yn ol cynghor ei ewyllys ei hun, trwy ba un, er mwyn ei ogon- iant ei hun, y mae wedi rhagordeinio pa beth bynag a gymer le."—Catecism Byraf. "Darfu i Dduw," meddai y Cyŷes Ffydd, "er tragywyddoldeb, yn ol cynghor ei ewyllys ei hun, ac er am- lygiad a dyrchafiaá ei briodoliaethau gogoneddus, arfaethu pob peth a wnai mewn amser, ac i dragywyddoldeb, mewn creadigaeth, llywodraethiad ei greaduriaid, ac yn iachawdwriaeth Çechaduriaid o ddynolryw, eto yn y íath fodd fel nad yw yn awdwr pechod, nac yn treisio ewyllys y creadur yn y cyflawniad o honi." Fod arfaeth yn bod sydd wirionedd anwadadwy. Nid un dosbarth o brof- ion yn unig sydd yn cadarnhâu hyn, S B