Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEFA. Ehit. •] AWST, 1880. [Llypr L. YCHYDIG NODIADAU AR AWSTIN. GAN Y PARCH. GRIPFITH PARRY, ABIRYSTWTTH. I. Y mae yn aylw a goffeir yn fynych fod yr oll o Hanesyddiaeth yn cael ei wneyd i fyny mewn gwirionedd o hanes yehydig bersonau. Y mae ychydig ddynion wedi ymddangos yn awr ac eilwaith, y rhai, trwy rym athrylith, mawredd meddwl ac ysbryd, a nerth ewyilys, ac hefyd trwỳ gydgyfarfydd- iad manteisiol o amgylchiadau yn nghwrs Rhagluniaeth, yr hon sydd bob amser yn cymhwyso yr awr a'r i/yn i'w gilydd, a fuant yn foddion i greu cyfnodau mewn Hanesyddiaeth, i benderfynu rhediad dygwyddiadau am amser maith, neu i roddi cyfeiriad i feddwl oesoedd, trwy osod arno argraff annileadwy eu personoliaeth eu hun- ain. Dyma y dynion sydd yn creu Hanesyddiaeth. Pe buasent hwy a'u gwaith heb fod, buasai hanes y byd a hanes meddwl yn holiol wahanol i'r hyn ydyw. Cydnabyddir hyn yn y pwys a rodd- ir ar astudio hanes dynion mawr un- rhyw oes, mewn trefn i ddeall yr oes ei hunan, pa un bynag ai yn ei gwlad- yddiaeth, ei hatìironiaeth, neu ei chref- ydd. Y maent yn cynnrychioli tuedd- ìadau yr oes. Gelwir hwynt yn ber- sonau hanesyddol. Y maent yn fawr mewn ystyr oddefol, yn eu gallu i ddeall, neu i dderbyn y dylanwadau sydd yn gweithio ar y pryd yn awyr- gylch meddwl a chymdeithas--i ddeall. y drwg ac i dderbyn y da. Person nanesyddol yw yr un ag y mae ysbryd yr oes yn gweithio yn fwy grymus Biddo nag yn y cyffredin o ddynion. arluniwyd y, cyfiÿw un weithíau fel hanesyddiaeth wedi ymgorôbrí—lianes- yddiaeth wedí eynneu ao yn llewyrchu mewn person byw. Ao y mae y rhai hyn yn fawr mewn ystyr weithredol yn gystal a goddefol. Y maent ar unwaith yn greaduriaid ac yn greawdwyr eu hoes, fel y gwelwyd plentyn weithiau yn offeryn i newid buchedd awdwr ei fôd. Hwynt-hwy sydd yn deall eu hoes oreu, ao am hyny yn gallu gwneyd mwyaf o les iddi. Am eu bod yn acl- lewyrchu delw eu hoes, y mae hi yn eu eymeryd yn arweinwyr—y maent yn dyfod yn ddylanwad arni. Y maent hwy wedi meddiannu yr hyn sydd gan- ddi hi, ao y mae ganddynt rywbeth newydd a gwell i'w roddi iddl. Fel hyn y mae dynion mwyaf unrhyw oes yn cyflawni dau ammod ar unwaith: y maent yn dyfod i fyny â'u hoes, ac y maent hefyd o'i blaen. Wrth fod o i blaen, nid ydynt yn ei gadael, ond yn ei thynu ar eu hol. Y maent fel yr Hwn oedd yn agosach na neb at bechadur- iaid, tra yn fwy didoledig na neb oddi- wrthynt, ac am y ddau reswm, wedi cael dylanwad mwy na neb arnynt. Y mae dyddordeb yn gystal a budd neillduol mewn efrydu hanes y dynion hyn. Fel y sylwa un awdwr, ar ol bod yn astudio y symudiad pwysig, meddyliol a chrefydaol, hwnw yn y Canol-Oesoedd a adnabyddir fel Ysgoí- yddiaeth (Scholasticism), pan yr ydym yn dyfod i edrych arno yn mywyd a chymeriad ei gynnrychiolyd^ goreu Anselm, y mae y cyfnewídiad yn fawr. Wedi bod yn dilyn ysbryd anmherson- ol yr oes, yr ydym yn awr yn dyfod at ddyn unigol, at un galon ddynol. Wele yn awr berson byw o'n blaen,